Cathy Hewins

Uwch Ddarlithydd Iechyd

Picture of staff member

 

Rwyf yn nyrs cofrestredig ers Ebrill 1995. Dechreuais fy addysg nyrsio ym 1992 ym Mhrifysgol Keele lle cwblheais Ddiploma yn Addysg Uwch, Nyrsio (cangen Oedolion). Ym 1999 dechreuais fy ngradd yn Nyrsio Cymhwysol yn be oedd NEWI. Graddiais ym 2001 gyda BSc (Anrh) mewn Nyrsio Cymhwysol gyda thystysgrif ymarfer arbenigol. Rwyf yn astudio tuag at fy ngradd meistr mewn Dysgu a Thechnoleg yma ym Mhrifysgol Wrecsam.

Dechreuodd fy mywyd gwaith fel nyrs ym 1992 yn Ymddiriedolaeth GIC Ysbyty Gogledd Sir Stafford lle cwblheais fy addysg nyrsio. Cefais swydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ym 1995 lle bûm yn gweithio ar y ward derbyn i ysbyty. Symudais i uned arennol Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ym 1997, ac arbenigais mewn nyrsio arennol yn enwedig haemodiaylsis. Gadewais yr uned arennol ym 2003 i ddechrau yn nhîm nyrsio'r brifysgol.

Yn fy amser sbâr rwy’n hoffi mynd i lefydd gyda fy merch, rhedeg a mynd i'r gampfa.