Dr Clint Godfrey

Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Busnes Chwaraeon

Picture of staff member

Mae Dr Clint Godfrey yn Uwch Ddarlithydd gyda phrofiad helaeth mewn rheoli busnes chwaraeon, arweinyddiaeth, datblygiad proffesiynol ac addysg uwch. Mae wedi gweithio mewn rolau academaidd ym Mhrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn a Phrifysgol John Moores Lerpwl, lle bu’n arwain a datblygu rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn busnes chwaraeon, arweinyddiaeth, rheoli a datblygiad proffesiynol. Mae Clint hefyd yn Aelod Anrhydeddus o’r Gyfadran ym Mhrifysgol Lerpwl, gan gynorthwyo gyda’r rhaglenni ôl-raddedig ar-lein o fewn yr Ysgol Fusnes.

Cyn symud i addysg uwch, roedd Clint yn gweithio mewn datblygu chwaraeon gan gynnwys fel Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Sport England, lle bu’n rheoli strategaethau buddsoddi cenedlaethol oedd yn gysylltiedig â datblygu cyfleusterau chwaraeon cymunedol. Ochr yn ochr â’i rôl yn y brifysgol, mae Clint yn cynnal practis ymgynghori gweithredol, sy’n cynorthwyo sefydliadau gyda datblygu arweinyddiaeth, hyfforddi, dysgu proffesiynol, diwylliant, llywodraethu a datblygu strategol. Mae’r gwaith cymhwysol hwn yn llywio ei addysgu a cyn helpu myfyrwyr i gysylltu damcaniaeth academaidd gydag arfer sefydliadol yn y byd go iawn.

Mae ei addysgu a’i ddiddordebau proffesiynol yn canolbwyntio ar fusnes chwaraeon, arweinyddiaeth, cyflogadwyedd, arfer broffesiynol, datblygiad sefydliadol a’r cysylltiadau rhwng addysg, diwydiant a datblygu gyrfa.

Diddordebau Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Clint yn canolbwyntio ar fusnes chwaraeon, datblygiad proffesiynol, addysg a’r berthynas rhwng dysgu, hunaniaeth a dilyniant gyrfa mewn cyd-destunau’n ymwneud â chwaraeon. Roedd ei ymchwil doethur yn ystyried agweddau tuag at addysg mewn pêl-droed proffesiynol, gan adlewyrchu diddordeb ehangach yn sut mae pobl sy’n gweithio yn y byd chwaraeon yn deall gwerth addysg, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn cyfranogiad mewn chwaraeon, hyfforddi, arweinyddiaeth a datblygiad sefydliadol. Mae ei ymchwil cydweithredol diweddar wedi canolbwyntio ar seiclo, wedi’i ddatblygu o ymchwil meistr cyn fyfyriwr, ac mae’n awyddus i barhau i ddatblygu ymchwil cymhwysol sy’n cysylltu prosiectau myfyrwyr, sefydliadau chwaraeon ac arferion yn y byd go iawn.

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2023 Understanding the impact COVID-19 has had on grassroots cycling: the perspective of grassroots volunteers and British cycling staff, Managing Sport and Leisure. [DOI]
David Redmond;Matthew Hindmarsh;Clint Godfrey
Cyfnodolyn a Adolygir gan Gymheiriaid
2015 Nostalgia as truth, self preservation or identity formation? – Initial accounts from professional footballers in education, UCLan Journal of Pedagogic Research. 
Dr Clint Godfrey
Cyfnodolyn a Adolygir gan Gymheiriaid
2011 Evaluating International Youth Sport for Development Programmes: Reality or Impossibility?, Children, Youth and Leisure. 
Dr Clint Godfrey
Pennod Lyfr
2010 Sport in the UK, Learning Matters / Sage. 
Dr Clint Godfrey;Dr Leona Trimble;Dr Babatunde Buraimo;Dr David Grecic;Dr Sue Minten
Llyfr

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeithasfa Swyddogaeth Dyddiad

Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch

Cydnabyddiaeth broffesiynol am addysgu a dysgu mewn addysg uwch

2011

Cymdeithas Datblygu Staff ac Addysgol

Datblygiad proffesiynol mewn addysgu a dysgu mewn addysg uwch 2011

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Dyddiad
Prifysgol Lerpwl Aelod Anrhydeddus (Rhaglenni Ôl-raddedig) 2023
ICL Education & Training Ltd Ymgynghorydd Addysgol 2023
Prifysgol John Moores Lerpwl Uwch Ddarlithydd - Busnes Chwaraeon (Entrepreneuriaeth, Arweinyddiaeth a Rheoli) 2021 - 2024
Prifysgol Swydd Gaerhirfryn Uwch Ddarlithydd / Arweinydd Cwrs (MSc Rheoli Busnes Chwaraeon) 2007 - 2021
Sport England Rheolwr Datblygu Cenedlaethol 2004 - 2007
Cyngor Bwrdeistref Chorley Rheolwr Datblygu Chwaraeon 2002 - 2004
Cyngor Dinas Preston Uwch Swyddog Datblygu Chwaraeon 2000 - 2002

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc Dyddiad
Prifysgol Manceinion BA (Anrh) Astudiaethau Hamdden a Rheoli Busnes 1996 - 1999
Prifysgol Swydd Gaerhirfryn Doethuriaeth Addysg (EdD) 2012 - 2017
Prifysgol Swydd Gaerhirfryn MA Rheoli Chwaraeon 2004 - 2007

Arfer Proffesiynol ac Ymgysylltu Allanol

Mae Clint yn ymgymryd â gwaith ymgynghori a datblygiad proffesiynol ochr yn ochr â’i rôl academaidd, gan gynorthwyo sefydliadau gyda datblygu arweinyddiaeth, hyfforddi, dysgu proffesiynol, llywodraethu, strategaeth, diwylliant a datblygu gallu. Mae‘r gwaith cymhwysol hwn yn llywio’i addysgu ac yn helpu myfyrwyr i gysylltu syniadau academaidd ag arfer broffesiynol yn y byd go iawn.

Mae hefyd wedi gweithio fel Arholwr Allanol ar raglenni busnes chwaraeon a rheoli chwaraeon, gan gynnwys penodiadau gyda Phrifysgol Caerwrangon a Choleg Americanaidd Gwlad Groeg, Athens. Mae gan Clint gefndir mewn chwaraeon cymhwysol, gan gynnwys profiad blaenorol mewn datblygu chwaraeon ac mae ganddo Drwydded Hyfforddi UEFA B, a Gwobr Hyfforddwr Golff Cymunedol Golff Lloegr.

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Clint yn cynnwys rheoli busnes chwaraeon, arweinyddiaeth, ymddygiad sefydliadol, datblygiad proffesiynol, cyflogadwyedd, entrepreneuriaeth, dulliau ymchwil, rheolaeth strategol ac arfer fyfyriol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn helpu myfyrwyr i gymhwyso damcaniaeth academaidd mewn cyd-destunau proffesiynol y byd go iawn a chefnogi myfyrwyr i feithrin hyder, sgiliau academaidd a pharodrwydd ar gyfer gyrfa.

Mae ei brofiad addysgu yn cynnwys israddedigion, ôl-raddedigion, darpariaeth ar y campws ac ar-lein, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddysgu cymhwysol, ymgysylltu â diwydiant a chyflogadwyedd myfyrwyr.