Dr Joanne Pike

Arweinydd rhaglen MSc Gwyddorau Iechyd

Picture of staff member

Mae Joanne yn Brif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol gyda llawer o brofiad yn gweithio ym maes addysg uwch. Mae ganddi sgiliau dylunio ymchwil, darlithio (pynciau: Arfer Clinigol Uwch, arfer proffesiynol a dulliau ymchwil), a datblygu’r cwricwlwm.

Mae agwedd Dr Pike tuag at addysgu a dysgu yn gefnogol ac annogol ac mae hi'n dweud:

"Does dim gwell na chefnogi myfyrwyr i gyflawni eu gradd Meistr. Mae myfyrwyr fel arfer yn dod atom yn gweithio llawn amser mewn swyddi lle mae straen a'r galw arnynt yn uchel iawn, a gallent amau eu gallu. Rydym yn helpu ac annog hwy ar eu siwrne academaidd drwy'r cwrs i gyflawni eu nod, a dyna beth sy'n fy nghael o'r gwely bob bore."

Mae ymchwil yn bwysig ar gyfer datblygu arfer proffesiynol, ac un o brif ddiddordebau Joanne yw ysbrydolrwydd a’i fynegiant mewn gofal nyrsio, y bu’n ei ymchwilio ers 2009. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Cyfrifiadura yn yr Is-adran Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn archwilio effaith companoteg (anifeiliaid anwes sy’n robotiaid) ar lesiant, ar gyfer pobl gyda dementia.

Gweithgareddau Allgymorth

Teitl Disgrifiad Sefydliad
Defnyddio anifeiliaid anwes robotaidd fel cydymaith i bobl â dementia: cysylltu gyda 'Companotics' heddiw ac yn y dyfodol

Dechreuodd Joanne gyda’r cysyniad o anifeiliaid anwes therapi a sut y defnyddir anifeiliaid amrywiol mewn gwahanol ffyrdd i gefnogi pobl. Tynnwyd sylw at y ffaith fod llesiant y bod dynol a’r anifail yn ffactorau i’w hystyried gyda’r rhyngweithiadau hyn ac efallai nad yw rhai pobl sy’n profi anawsterau iechyd mewn sefyllfa i fodloni anghenion yr anifail. 

Yna cawsom ein cyflwyno gan Joanne i ddyfeisiadau cadw cwmni ar hyd y blynyddoedd, o'r tedis traddodiadol i anifeiliaid anwes electronig fel Tamagotchi™, i’r robotiaid cadw cwmni mwy cymhleth, tra modern. 

Eglurwyd pwrpas y cathod cadw cwmni robotig, ac yna rhannodd Joanne yr ysbrydoliaeth bersonol y tu ôl i’r ymchwil a oedd yn ceisio dysgu sut brofiad oedd cael cathod cadw cwmni robotig yn eu cartrefi i bobl sy’n byw â dementia. 

Rhannwyd trosolwg o'r cyfranogwyr, ac yna cyflwynwyd y gynulleidfa i Jean a’i hamser gyda’r gath robotig. Heb ddatgelu gormod, yn sicr gallwn ddweud bod y gath wedi rhoi rheswm i Jean godi yn y bore, oedd mor galonogol. 

Daeth Joanne â’i darlith i ben drwy drafod y buddion a nodwyd i bobl sy’n byw â dementia o ddefnyddio cathod cwmni robotig, a manylodd ar yr hyn yr hoffai ei wneud nesaf gyda’r ymchwil. Gwnaeth aelodau o'r gynulleidfa sylwadau a holi cwestiynau difyr ar ddiwedd y ddarlith, gydag un aelod yn gwneud sylw fod hon yn un o’r ychydig ddarlithoedd yr oedd wedi’i mynychu a gafodd ei chyflwyno gyda chariad. 

Darlith Gyhoeddus Prifysgol Wrecsam