Louise Ward

Darlithydd mewn Therapi Galwedigaethol

Picture of staff member

Cymhwysodd Louise fel Therapydd Galwedigaethol yn 2008 ar ôl cwblhau diploma ôl-raddedig mewn Therapi Galwedigaethol o Brifysgol Bangor. 

Cyn cymhwyso, buodd yn gweithio fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol yng Nghanolfan Niwroleg a Niwrolawdriniaeth Walton, a ysgogodd ei diddordeb mewn gweithio gyda phobl ag anableddau corfforol. 

Mae gyrfa Louise wedi bod yn amrywiol ers cymhwyso fel Therapydd Galwedigaethol a bu’n gweithio i'r sector preifat, yr awdurdod lleol, gwasanaethau elusennol a'r GIG. Mae hi'n mwynhau rolau arbenigol lle gall wir ddatblygu ei sgiliau gyda grŵp cleientiaid penodol, ac o ganlyniad, mae ganddi brofiad o’r maes anaf i'r ymennydd, anaf i fadruddyn y cefn, cyfarpar eistedd arbenigol, technoleg gynorthwyol a phrostheteg. 

Ar hyn o bryd, mae Louise yn gweithio'n rhan-amser fel Therapydd Galwedigaethol Arbenigol mewn Adsefydlu Prosthetig, ochr yn ochr â'i rôl darlithio. 

Yn ei hamser rhydd mae’n mwynhau bod yn yr awyr agored naill ai’n rhedeg, yn nofio neu’n mynd ar anturiaethau gyda’i bachgen bach.