Dr Natalie Roch

Prif Ddarlithydd Seicoleg

Picture of staff member

Derbyniodd Natalie ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2008 mewn Seicoleg, ac yna ei MSc mewn Ymchwil Seicolegol hefyd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2010. Yn ystod 2009 a 2010 gweithiodd Natalie fel Cynorthwyydd Ymchwil yn Labordy Datblygiad Gwybyddol yr Ymennydd ym Mhrifysgol Bangor, cyn cyflawni ei PhD mewn Seicoleg yn y labordy ymchwil hwn yn 2015.

Teitl ei thraethawd ymchwil PhD oedd ‘Dwyieithrwydd a Gwybyddiaeth: Dull ERP’. Ar ôl cwblhau ei PhD, ymunodd Natalie â Phrifysgol Wrecsam fel Technegydd Seicoleg yn 2016. Oddi yno fe’i penodwyd yn Ddarlithydd mewn Seicoleg Fiolegol yn 2017, gan ddechrau ei swydd o Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd y Rhaglen Israddedig mewn Seicoleg yn 2018. Derbyniodd Natalie ei Chymrodoriaeth o AU Ymlaen yn 2017, a statws siartredig gyda’r BPS yn 2018.

Yn 2022 penodwyd Natalie yn Brif Ddarlithydd yn y Gyfadran Gymdeithasol a Gwyddorau Bywyd, a hi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r adrannau Seicoleg a Chwnsela. Pan nad yw’n gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam, mae Natalie yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu; yn caru popeth Disney a Marvel; wrth ei bodd â chwaraeon gan gynnwys pêl droed a reslo; ac yn mwynhau mynychu’r theatr a gigiau cerddorol.

Diddordebau Ymchwil

Ehangu cyfranogiad mewn AU ac mewn Dysgu Seicoleg

Llesiant Myfyrwyr a Llesiant Academaidd

Dwyieithrwydd a Datblygiad Gwybyddol (ar hyd ein hoes)

Niwroseicoleg

Cydweithwyr

Enw Rôl Cwmni
Mandy Robbbins Cyd-ymchwilydd Prifysgol Wrecsam

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2018 Tiwtor Personol Gorau Gwobrau Undeb y Myfyrwyr
2022 Tiwtor Personol Gorau Gwobrau Undeb y Myfyrwyr

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeithasfa Swyddogaeth
Cymdeithas Seicolegol Prydain Aelod Siartredig (CPsychol)

Cyflogaeth

Blwyddyn Cyflogwr Dyddiad
Prifysgol Bangor Cynorthwy-ydd Ymchwil 2009 - 2010
Prifysgol Wrexham Uwch Ddarlithydd 2018 - 2022
Prifysgol Wrexham Technegydd Seicoleg 2016 - 2017
Prifysgol Wrexham Ddarlithydd 2017 - 2018

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc O/I
Prifysgol Wrexham Tystysgrif Ôl-raddedig Datblygiad Proffesiynol mewn AU 2016 - 2017
Prifysgol Bangor MSc Ymchwil Seicolegol Seicoleg 2008 - 2010
Prifysgol Bangor BSc (Anrh) Seicoleg Seicoleg 2005 - 2008
Prifysgol Bangor PhD Seicoleg 2010 - 2015

Leithoedd

Iaith Darllen Ysgrifennu Siarad
Cymraeg Hyfedredd Proffesiynol Hyfedredd Proffesiynol Hyfedredd Proffesiynol
Saesneg Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog



Diddordebau Addysgu

Sgiliau Astudio

Dulliau Ymchwil

Seicoleg Fiolegol a Gwybyddol

Niwrowyddoniaeth a Niwroseicoleg

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Introduction to Research Methods 1 PSY424
Advanced Research Design PSY509

Ôl-raddedigion Presennol

Enw Gradd
Kirsty Rogers PhD
Jess Achilleos PhD
Emma Taylor PhD
Katherine Rowlands PhD

Myfyrwyr Ôl-raddedig Diweddar

Blwyddyn Enw Gradd
2020 Daniel Wilkin MSc Psychology
2022 Nataliya Shershenyuk MRes Psychology
2023 Gwennan Barton PhD
2020 Joe Newton MPhill