Oherwydd y toriadau Microsoft 365 byd-eang yr adroddwyd amdanynt yn eang, rydym ar hyn o bryd yn tarfu rhywfaint ar ein gwasanaethau. O ganlyniad, efallai y bydd unrhyw ymatebion i gyfathrebiadau e-bost yn cael eu gohirio.

Peter Bolton

Darlithydd, Hanes

Picture of staff member

Graddiodd Peter gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Hanes o Brifysgol Wrecsam cyn cwblhau ei MA ym Mhrifysgol Manceinion. O ganlyniad i’w astudiaethau fe’i henwebwyd ar gyfer gwobr gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac fe gyhoeddwyd ei waith ar urddau Caer mewn cyfnodolyn rhanbarthol o fri.

Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Wrecsam mae Peter wedi cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol. Y mae hefyd wedi ymrestru ar PhD sydd yn ystyried hunaniaeth drefol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mae Peter yn dysgu modiwlau ar hanes cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, o’r cyfnod Modern Cynnar hyd ar yr ugeinfed ganrif. Mae hefyd yn rhedeg cwrs y mae Prifysgol Wrecsam yn ei gynnig mewn Hanes Teulu a Chymunedol ac yn cyfrannu at y cwrs Astudiaethau Celtaidd.