Galwch nawr am leoedd Medi 2026! 01978 293439

Wythnos Croeso 2026

Popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer astudio ym Mhrifysgol Wrecsam, cwblhau eich cofrestriad a pharatoi ar gyfer eich wythnos gyntaf.

Students At Welcome Week
campus reception tower

Methu aros am i chi gyrraedd

Rydym wedi gweithio i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, yn derbyn gofal ac yn rhan o'r hyn y mae Prifysgol Wrecsam yn ei wneud orau – sef bod yn gymuned gefnogol. Mae iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr a'n staff wrth galon ein cynlluniau, gan sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel i bawb.

Wythnos Croeso 2026

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Dewch o hyd i'r wybodaeth, y systemau a'r cymorth hanfodol sydd eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer astudio ym Mhrifysgol Wrecsam.

Undeb Myfyrwyr Wrecsam

Wythnos y Glas 2026

Yn dechrau ddydd Gwener 18 Medi 2026

Caiff yr hyn sy'n digwydd yn ystod Wythnos y Glas, cyfleoedd i gwrdd â myfyrwyr eraill a ffyrdd o gymryd rhan ym mywyd y brifysgol eu darganfod drwy Undeb Myfyrwyr Wrecsam.

Student chatting

Bod yn barod ar gyfer eich astudiaethau

Eleni, mae'r Brifysgol yn gwella'r broses sefydlu a'r croeso i addysg uwch ac i Brifysgol Wrecsam. Bydd y modiwl sefydlu myfyrwyr, sydd ar wahân i'ch gradd, yn amlinellu'r hyn y mae angen i chi ei wybod am fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam. Bydd gofyn i chi ddewis yr opsiwn wrth gofrestru, ac rydym yn argymell bod pob myfyriwr israddedig newydd yn cymryd rhan.

Target Connect

Target Connect Porth

Mae’r Brifysgol wedi creu porth ar gyfer darpar fyfyrwyr, myfyrwyr newydd a myfyrwyr presennol i helpu i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am eich astudiaethau. Mae enghreifftiau o’r wybodaeth y gallwch ei chael ar y platfform hwn yn cynnwys:  

  • Sut y caf fy asesu? 
  • Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr
  • Dechrau yn y Brifysgol fel Myfyriwr Rhyngwladol 
  • Beth i’w wneud pan nad yw pethau wedi mynd yn ôl y cynllun 

Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Wrecsam ddefnyddio manylion mewngofnodi eu Prifysgol i gael mynediad at y system yma. Gall ymgeiswyr, darpar fyfyrwyr, myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau eu cofrestriad neu rieni a gofalwyr gofrestru i ddefnyddio’r system drwy lenwi ffurflen gofrestru gyflym. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cael mynediad at y system, cysylltwch â ni ar ask@wrexham.ac.uk.

Cwestiynau Cyffredin

Content Accordions

O amgylch y campws