Cyn i chi gyrraedd
Llongyfarchiadau ar gadarnhau'ch lle ym Mhrifysgol Wrecsam!
Mae'r amser bron yma ichi ymuno â ni, ac ni fedrwn ni ddisgwyl eich croesawu chi.
Bydd yr wythnosau i ddod yn amser prysur iawn, felly ein nod yw ei wneud mor syml â phosibl ichi drefnu popeth byddwch angen arnoch cyn ichi gyrraedd y campws.
Rydym wedi llunio rhestr isod o bopeth sydd angen ichi wybod cyn ichi ddod yma.
Cofrestru Ar-lein
Cyn i chi ddechrau'ch cwrs yma ym Mhrifysgol Wrecsam, bydd angen ichi gofrestru'n swyddogol fel myfyriwr. Gallwch chi wneud hyn ar-lein a chewch chi e-bost fydd yn cynnwys y ddolen i'ch galluogi i wneud hyn cyn i chi gyrraedd.
Edrychwch ar y rhan cofrestu am fwy o wybodaeth am cyn-cofrestru a beth fyddwch angen arnoch yn barod ar gyfer cofrestru ar-lein.
Rhoi trefn ar eich cyllid myfyriwr
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael i chi yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ewch i'n prif adran ffioedd a chyllid i ddarganfod faint yn union sydd angen i chi ei dalu, ac a ydych yn gymwys i dderbyn unrhyw becynnau cymorth ai peidio.
Os ydych yn astudio cwrs gofal iechyd, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid drwy Fwrsariaeth y GIG. Gallwn roi mwy o wybodaeth am y bwrsari hwn at ei gilydd yma.
Mae'n bwysig iawn bod eich cyllid yn cael ei drefnu cyn i chi ddechrau ar eich cwrs, oherwydd unwaith y byddwch wedi dechrau ar eich cwrs byddwch yn atebol am ffioedd dysgu. Os ydych chi'n cael trafferth cael gafael ar gyllid neu os oes angen arweiniad pellach arnoch ar y math o gymorth y gallech fod yn gymwys i'w gael, yna cysylltwch â'n Tîm Cyllid a Chyngor Ariannol. Gall ymgeiswyr a myfyrwyr presennol fewngofnodi trwy ein platfform Target Connect i gwblhau eu ffurflen ymholiad. Unwaith y bydd y ffurflen ymholiadau wedi'i chwblhau, bydd y Tîm Cynghori Ariannol ac Arian yn cysylltu eto i gynnig gwybodaeth ac arweiniad wedi'i theilwra. Gall myfyrwyr fewngofnodi i Target Connect gyda'u manylion mewngofnodi yn y Brifysgol a gall ymgeiswyr gofrestru ar gyfer y system trwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym. Gallwch gael mynediad i'r system yma. Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda'r system yna cysylltwch â ni ar funding@wrexham.ac.uk.
Efallai yr hoffech agor cyfrif banc myfyriwr lle gallwch gael eich rhandaliadau benthyciad a'ch cyllideb ar gyfer eich gwariant. Mae'r rhan fwyaf o brif fanciau'r stryd fawr ar gael yng nghanol tref Wrecsam ac mae digon o gyngor ar-lein ynglŷn â pha gyfrif yw'r opsiwn gorau. Gallwch hefyd agor a rheoli cyfrif banc myfyrwyr ar-lein. Efallai y bydd rhai yn cynnig cymhellion i chi agor cyfrif ond gwnewch yn siŵr nad ydych yn cael eich dal gydag unrhyw daliadau neu ddaliadau cudd. Darllenwch fwy yn ein blog myfyrwyr.
Archwebwch eich llety
Os ydych yn symud i ffwrdd o gartref, bydd angen i chi ddod o hyd i lety addas - yn Wrecsam rydym yn cynnig llety ar, ac oddi ar, y campws yn dibynnu ar eich anghenion a'ch cyllideb. Gall llefydd lenwi'n gyflym, felly dylech geisio archebu cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn eich cynnig am le. Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, ewch i'n prif dudalennau llety am fwy o wybodaeth.
A ofynnwyd i chi ddarparu gwiriad DBS a/neu Iechyd Galwedigaethol?
Byddwch wedi cael gwybod yn eich llythyr cynnig os yw eich rhaglen yn gofyn i chi ddarparu cliriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) boddhaol a/neu gliriad Iechyd Galwedigaethol. Os yw hyn yn berthnasol i chi, unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig yn gadarn, byddwch yn derbyn e-byst i gychwyn y gwiriadau clirio oddi wrth dbs@wrexham.ac.uk a gan Heales Medical. Sicrhewch eich bod wedi cyrchu'r dolenni a ddarperir yn yr e-byst hyn a chwblhewch y prosesau er mwyn i'r wybodaeth glirio berthnasol gael ei chofnodi yn erbyn eich cofnod myfyriwr. Os nad ydych wedi derbyn yr e-byst hyn (gwiriwch eich ffolder sothach/spam yn gyntaf), e-bostiwch admissions@wrexham.ac.uk.
Cymorth Cynhwysiant ac Anabledd
Os oes gennych anabledd, diagnosis iechyd meddwl, cyflwr iechyd tymor hir neu wahaniaeth dysgu penodol fel dyslecsia neu ddyspracsia, yna rhowch wybod i ni. Bydd unrhyw beth a ddywedwch wrthym yn cael ei drin yn gyfrinachol ac ni chaiff ei rannu heb eich caniatâd. Mae ein Tîm Gwasanaethau Cynhwysiant a Chymorth Anabledd yn cefnogi myfyrwyr i'w helpu i gael cymorth ychwanegol. Gall hyn hefyd gynnwys helpu myfyrwyr i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl. Os hoffech gael gwybod mwy am ein gwasanaethau a'r cymorth y gallwn ei gynnig, gallwch gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol ar 01978 293266 neu e-bostio inclusion@wrexham.ac.uk
Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein holl wasanaethau cymorth gan gynnwys cymorth academaidd, timau iechyd meddwl a lles a gwasanaethau llyfrgell yn ein hadran cymorth i fyfyrwyr.
Paratoi ar gyfer eich astudiaethau
Yma ym Mhrifysgol Wrecsam, ein nod ydi i'ch helpu setlo i mewn i'r brifysgol a'ch helpu i adeiladu'ch sgiliau digidol yn ystod eich rhaglen astudio gyda ni.
Ar ôl i chi gofrestru
Mewngofnodwch ar y Porth Myuni drwy fynd i myuni.glyndwr.ac.uk ar eich porrwr we a defnyddiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair a roddir i chi er mwyn cofrestru.
Gwyliwch y fideo cyflwyniad yma ar y Porth Myuni a'r ADR.
Cliciwch ar y botwm "VLE (Moodle)" o fewn y Porth MyUni;
Hwn ydi'n Amgylchedd Dysgu Rhithwir byddwch angen cyrchu yn rheolaidd drwy gydol eich rhaglen astudio. O fewn 24 awr ar ôl ichi fewngofnodi am y tro cyntaf, bydd eich rhaglen a modiwlau yn dangos ar y dangosfwrdd o fewn Moodle.
Byddwch yn derbyn gohebiaeth gan y Brifysgol drwy'ch e-bost myfyriwr ac mae gennych gyfrifoldeb i edrych arno yn rheolaidd. Gallwch ddarganfod gwybodaeth am yr e-bost myfyrwyr ar ein tudalennau E-bost Myfyrwyr. Rydym, felly, yn argymell eich bod yn blaenyrru'ch e-bost myfyriwr i'ch e-bost personol yr ydych yn defnyddio'n rheolaidd.
Cychwyn cwrs yn hwyrach?
Os oes gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â modiwlau ar y rhaglen Prifysgol Wrecsam rydych wedi gwneud cais amdano, gallwch wneud cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol / Gydnabyddiaeth o Ddysgu Profiadol Blaenorol (GDB/GDPB).
Bydd hyn yn eich eithrio rhag ail-wneud modiwlau rydych wedi gwneud yn barod. Gallwch ymgeisio am eithriad o fodiwl unigol hyd at ddwy-traean o werth credydau'r rhaglen gyfan.
Am fwy o wybodaeth am GDB/GDPB, edrychwch isod:
Cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae digon o ffyrdd o gysylltu â'r brifysgol ond mae defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn lle da i ddechrau.
Beth am ein dilyn ar y cyfrifon isod:
Gallwch hefyd ymuno â thudalen facebook swyddogol yr Undeb Myfyrwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau cymdeithasol, ymgyrchoedd a chynigion arbennig - mae hefyd yn ffordd dda o gyfarfod dechreuwyr newydd eraill a chyd-aelodau eich cwrs cyn i chi hyd yn oed gyrraedd.
Derbyniwch y Brechiad
Mae myfyrwyr sy'n dod i'r brifysgol am y tro cyntaf mewn risg uchel o heintiad gan maent yn debygol o fyw yn agos at ei gilydd mewn llety a rennir, fel llety myfyrwyr prifysgol. Dyna pam argymhellir y dylai fyfyrwyr sy'n mynd i brifysgol dderbyn y brechlyn MenACWY i wella eu hamddiffyniad yn erbyn pedwar achos gwahanol o feningitis a septicaemia - clefydau Meningococcal (Men) A, C, W ac Y.