Gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, mae labordy’r ganolfan mewn sefyllfa dda i gyflawni gwaith ymchwil a phrofion ar gyfer y byd academaidd a diwydiant. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys darlithfa ac ystafell TG.

Enghreifftiau o alluoedd y labordy:

Argraffu 3D 

Defnyddir argraffu 3D proffesiynol ac aml-ddefnydd i roi cysyniadau dylunio ar brawf a chreu allbynnau perfformiad uchel gyda gorffeniad gwych i’r arwyneb.

3D Printer

System Gwrthdrawiad Tŵr Gollwng

“Defnyddir Tyrau Gollwng Instron i ddatblygu, manwl diwnio, a dilysu modelau deunyddiau. Mae profi deunyddiau dan amgylchiadau gwrthdrawiad go iawn yn gam hollbwysig cyn cynllunio cynnyrch.” Instron
Profion gwrthdaro gollwng pwysau mewn ynni hyd at 1800 J ac ystod tymheredd rhwng -80 a 150 °C.

Profwr Mecanyddol

Profwr mecanyddol â dwy golofn, sydd â’r gallu i brofi hyd at 50 kN ar ystod tymheredd rhwng -100 a 350 °C.

Students in a lab observing impact tower equipment

Calorimedr Sganio Gwahaniaeth

Calorimedr sganio gwahaniaeth â ffwrnais ddwbl, sy’n darparu gwybodaeth am strwythur, priodoleddau a pherfformiad deunyddiau.

Dadansoddwr Mecanyddol Deinamig

Profi ansawdd deunyddiau cyfansawdd yn rheolaidd a galluoedd ymchwil uwch.

Lab equipment

Dadansoddwr Thermofecanyddol

Defnyddir hwn er mwyn mesur cyfernod ymlediad thermol (CTE) mewn deunyddiau.

Torrwr Jet Dŵr

Technoleg torri oer a ddefnyddir er mwyn torri deunyddiau cyfansawdd gyda chywirdeb hynod fanwl. Dull cyflym, cywir a hyblyg sy’n lleihau costau a gwastraff. Rydym yn ymgymryd â chontractau torri jet dŵr ar gyfer eitemau bychan.