Cymorth Ymchwil

Mae cymuned ymchwil Prifysgol Wrecsam yn prysur dyfu. Mae’r Swyddfa Ymchwil yma i gynorthwyo cymuned ein hymchwilwyr, yn cynnwys myfyrwyr ôl-radd, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, ymchwilwyr cyfnod penodol a staff academaidd.

Mae cymorth ymchwil yn y Brifysgol yn ymestyn y tu hwnt i’r Swyddfa Ymchwil – ceisiadau am grantiau a chostau, hyfforddiant i ymchwilwyr a chyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfa, ac arferion gorau o bob math ymhlith pethau eraill. Gall gwasanaethau cymorth helaeth y Brifysgol eich tywys chi a’ch ymchwil trwy oes gyfan y prosiect.