Mae Moeseg Ymchwil yn set fyd-eang o egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae unrhyw ymchwil sy'n ymwneud â rhyngweithio rhwng yr ymchwilydd a phobl eraill neu feinwe ddynol neu ddata sy'n ymwneud â bodau dynol, anifeiliaid neu'r amgylchedd, yn cael ei ddylunio, ei reoli a'i gynnal.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o foeseg, trylwyredd a chywirdeb yn ei holl ymchwil ac mae'n ceisio amddiffyn urddas, hawliau a lles pawb sy'n ymwneud â'r ymchwil y mae'n ei gynhyrchu. Er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn, mae'r Brifysgol yn mynnu bod yn rhaid i bob ymchwil a gynhelir o dan nawdd y Brifysgol sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol, deunydd dynol, data personol, anifeiliaid neu ymchwil a allai gael effaith ar yr amgylchedd, dderbyn cymeradwyaeth moeseg ymchwil cyn iddi ddechrau. Mae hyn yn berthnasol gyda grym cyfartal i brosiectau a wneir gan staff neu fyfyrwyr y Brifysgol mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys gwaith ar y cyd â sefydliadau trydydd parti.

Dylai ymchwilwyr allanol sy'n dymuno cynnal ymchwil gyda staff neu fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam gysylltu â rescadmin@glyndwr.ac.uk.