Sefydlwyd y Ganolfan Ymchwil a Hyfforddiant Uwch Gyfansoddion yn 2010 o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Prifysgol Wrecsam, Airbus a Llywodraeth Cymru. Wedi’i lleoli ger Airbus yn Bretton, mae'r ganolfan wedi helpu miloedd o weithwyr a phrentisiaid y diwydiant awyrofod i ddatblygu eu sgiliau gweithgynhyrchu deunyddiau cyfansawdd. 

Mae deunyddiau cyfansawdd yn cynnwys dau neu fwy o sylweddau wedi eu cyfuno i gynhyrchu priodoleddau na all y cydrannau unigol eu cyflawni ar eu pen eu hunain; maent yn chwarae rôl allweddol yn y broses o weithgynhyrchu awyrennau drwy wella perfformiad ac effeithlonrwydd carbon, a chynnig cyfle i leihau costau yr un pryd. Mae ein labordy o'r radd flaenaf yn galluogi ymchwil, addysgu, cydweithredu â'r diwydiant, hyfforddiant a datblygiad sgiliau, sy’n helpu i ddatblygu technegau gweithgynhyrchu a phrosesu cyflymach ar gyfer deunyddiau cyfansawdd.

Ein gwaith

Datblygu deunyddiau cyfansawdd uwch at ystod o ddibenion, gyda phwyslais penodol ar

  • Profi mewn tymheredd isel
  • Y broses caledu uwch
  • Prosesu cyflym

Trawsgrifiad - Composites Centre Transcript

Ymchwil

Mae ymchwil a arweinir gan Brifysgol Wrecsam yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau gweithgynhyrchu a phrosesu cyflymach ar gyfer deunyddiau cyfansawdd, er mwyn helpu i ateb y galw am awyrennau a deunyddiau cyfansawdd yn gyffredinol yn y dyfodol.
Mae’r ganolfan wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil yn ymwneud â phrosesu resin, deunyddiau a samplau gydag ystod o gwmnïau, er mwyn lleihau’r amser mae’n ei gymryd i brosesu deunyddiau cyfansawdd.  
Mae’r meysydd ymchwil yn cynnwys:
  • Prosesu y tu allan i'r awtoclaf (microdon)
  • Cemeg – cineteg caledu
  • Opteg Deunyddiau Cyfansawdd, gan ddefnyddio cysylltiadau gyda’r ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf ar gyfer y diwydiant technoleg optoelectroneg yn Llanelwy. 

Content Accordions

Gweithio gyda ni

Mae Prifysgol Wrecsam yn croesawu ymholiadau o ddiwydiannau ac o'r byd academaidd ynglŷn â sefydlu cysylltiadau ymchwil gydweithredol newydd, a gallwn gynnig gwasanaeth ymgynghori byrdymor neu ymchwil dan gontract.

Cysylltiadau

Ble i ddod o hyd i ni

Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Uwch Gyfansoddion
Bretton
Glannau Dyfrdwy    
CH5 3US

 

Directions to Composites Centre