Diwydiant 

Mae’r Ganolfan Ymchwil a Hyfforddiant Uwch Gyfansoddion yn ymgymryd â phrosiectau amrywiol - o ymgynghoriaeth byrdymor i gydweithredu mwy hirdymor, a all gynnwys Cydweithredu ar Ymchwil a Datblygu gyda’r Bwrdd Strategaeth Technoleg, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), gwaith ar y cyd a ariannir gan y Cyngor Ymchwil ac ymchwil cytundebol. 

Cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer:

Nodweddu thermol

  • Calorimetreg sganio gwahaniaeth (mesur cyflwr y caledwch, tymheredd trawsnewid gwydr, a mesuriadau ehangach ar gyfer polymerau, metelau a serameg)
  • Dadansoddiadau mecanyddol deinamig (ar gyfer mesur tymheredd trawsnewid gwydr mewn polymerau ar ffurf soled a phowdr)
  • Dadansoddiadau Thermografimetrig (i ddeall cynnwys lleithder a dirywiad deunyddiau)

Treuliad asid poeth 

  • Treulio deunyddiau cyfansawdd gyda chymorth microdon er mwyn canfod cynnwys di-fudd a ffibr

Torri â jet dŵr

  • Torri eitemau bychain â jet dŵr ar gontract
     

  Mesur priodoleddau ynysol 

  • Dull ceudod cyseiniol ar 2.45 GHz
  • Mesur ffilm â chyseinydd ynysol post hollt ar 2.45 a 5 GHz
       

Profi mecanyddol

  • Profi mecanyddol hyd at 50 kN. Mae gan y ganolfan ystod eang iawn o jigiau prawf, gan alluogi ystod eang o nodweddu mecanyddol. Gellir gwneud y mesuriadau ar ystod tymheredd rhwng -100 a 350 °C, os oes angen
       

Profion gwrthdaro

  • Profion gwrthdaro gollwng pwysau gydag ynni hyd at 1800 J ac ystod tymheredd rhwng -80 a 150°C
  • Cywasgu ar ôl profion gwrthdaro

Partneriaethau

Mae'r labordy’r ganolfan cyfansoddion wedi ei ddefnyddio ar gyfer sawl prosiect gan dîm optegol manwl Arloesol Glyndŵr. Mae’r gwaith a wnaethpwyd yn y labordy wedi cynorthwyo wrth gynllunio systemau amryw bwrpasol megis ar gyfer arsylwadau uchel o'r awyr a gosod opteg telesgopau mawr (1.5m+). 

Yn ychwanegol, mae’r labordy wedi ymgymryd â gwaith profi mecanyddol ar gyfer cynnyrch diwydiant lleol a chenedlaethol. Os fydd eich cais yn gofyn am sefyllfaoedd profi penodol, yna mae croeso i chi gysylltu â’r tîm. 

Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (ARMC) yng Ngogledd Cymru

Mae’r Athro Day wedi treulio pedair blynedd yn gweithio'n rhan amser gydag AMRC Sheffield fel Cymrawd High Value Manufacturing Catapult yn ymchwilio i galedu cyfansoddion polymer yn gyflym drwy eu cynhesu gyda microdonau.

Rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni.