Gwerthusiad o Raglen Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda
Roedd rhaglen Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda yn ymyriad ag iddo sawl rhan, a ariannwyd gan Y Gronfa Loteri Fawr, ac a gyflenwyd dros gyfnod o bum mlynedd ledled pedair gwlad y DU. Nod y rhaglen oedd lleihau niwed o ganlyniad i alcohol ymhlith oedolion hŷn (a ddiffinnir yma fel pobl dros 50 oed oherwydd y gall defnyddwyr alcohol cronig heneiddio’n gyflymach). Roedd ganddi bedair prif amcan:
- Codi ymwybyddiaeth o gamddefnyddio alcohol ymhlith pobl dros 50 oed, ynghyd â newid agweddau, lleihau stigma, a chyfleu negeseuon i’r gymuned o ran sut i leihau niwed.
- Cynyddu gallu unigolion a chymunedau i wrthsefyll problemau alcohol ymhlith pobl dros 50 oed.
- Cynyddu gallu darparwyr gwasanaeth i adnabod arferion yfed problemus ymhlith pobl dros 50 oed.
- Datblygu tystiolaeth o ran sut i atal pobl dros 50 oed rhag camddefnyddio alcohol er mwyn llywio gwaith ataliol at y dyfodol.
Cynhaliwyd y gwerthusiad gan dîm o Brifysgol Swydd Bedford, Prifysgol Glasgow Caledonian, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (yr Athro Iolo Madoc-Jones, Fiona Wilson), ynghyd â Phrifysgol Queen’s, Belfast. Nod y tîm oedd penderfynu p’un a oedd y rhaglen yn gweithio, ynghyd â mesur ei heffaith gan ddefnyddio dull o’r enw Dadansoddi Cyfraniadau. Nod Dadansoddi Cyfraniadau yw asesu’r newid sy’n debygol o arwain o amryw ffactorau, er mwyn darparu tystiolaeth gredadwy bod unrhyw unigolyn rhesymol yn debygol o gytuno â hi.
Roedd y gwaith Dadansoddi Cyfraniadau yn ymwneud â chynnal gweithdai â staff a chyfranogwyr i ddeall yr hyn oedd yn eu cymell, a ddatblygwyd yn gynlluniau rhesymegol ac yn siartiau sy’n dangos mecanweithiau’r broses o newid. Ar ôl hyn, fe aeth y tîm ymlaen i gyfarfod ag aelodau staff, ac archwiliwyd y llenyddiaeth sy’n bodoli yn y maes er mwyn egluro a gwella eu dealltwriaeth o’r materion dan sylw. Yn olaf, datblygwyd adroddiadau ar y cyfraniadau sy’n disgrifio’r modd y cafodd bob agwedd ar y rhaglen ei rhoi ar waith, ynghyd â’r newid a gyflawnwyd.
Yn dilyn dadansoddiad trylwyr, canfu Dadansoddiad Cyfraniadau’r ymchwilwyr bod Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda wedi ceisio cyflawni newid trwy gyfrwng pedwar maes a oedd yn gorgyffwrdd: cynyddu gwybodaeth, ymwybyddiaeth ynghyd â phroffil y broblem; cynyddu gwydnwch; cefnogi pobl i wneud newidiadau i’r modd y maent yn defnyddio alcohol; ynghyd â lleihau stigma a gwahaniaethu.
Cynyddu gwybodaeth, ymwybyddiaeth, a phroffil y broblem
Roedd ymwybyddiaeth cyfranogwyr ynghyd â’u gwybodaeth am broblemau alcohol ymhlith pobl yn y grŵp oedran dros 50 wedi cynyddu trwy gydol y rhaglen. Ymhlith rhai o’r gweithgareddau a gyfrannodd at hyn oedd ymgyrchoedd yn y cyfryngau, hyfforddiant proffesiynol, ymyriadau addysgol, ynghyd â sgrinio ar gyfer arferion yfed niweidiol.
Cynyddu gwydnwch
Ymddengys fod y rhaglen yn cynyddu gwydnwch ymhlith oedolion hŷn. Aseswyd hyn ar dair lefel: gwydnwch ar lefelau unigol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr wedi dechrau a gorffen y cwrs gyda’r un lefel o wydnwch fel unigolion (yn ôl hynny a fesurwyd gan y raddfa’r ‘Brief Resilience Scale’), a oedd efallai wedi dangos swyddogaeth ataliol. Ymddengys fod y raddfa o fudd i’r rheiny a chanddynt y lefelau isaf o ran gwydnwch ar y dechrau. Roedd data o weithgareddau a grwpiau cymdeithasol o’r rhaglen yn awgrymu y gall y mesurau alcohol fod yn effeithiol yn y tymor hwy trwy feithrin gwydnwch o safbwynt amgylcheddol.
Cefnogi pobl i newid eu harferion o ran defnyddio alcohol
Mae’r stori o ran y perfformiad a amlinellwyd yn y prif adroddiad yn amlygu bod Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda wedi cefnogi pobl i wneud newidiadau o ran eu defnydd o alcohol. Darparodd Yfed Doeth, Heneiddio’n dda wybodaeth i lawer o bobl ynghylch arferion yfed peryglus, gan eu hannog i feincnodi eu defnydd o alcohol ymhlith y canllawiau a argymhellir er mwyn meddwl mwy am eu harferion yfed. Roedd oedolion hŷn yn credu y gallai gwasanaeth priodol i oedran arbennig fod yn fwy buddiol iddynt na phe baent yn cymryd rhan mewn gwasanaeth ar gyfer oedrannau cymysg, gan feddwl bod hynny’n creu llai o stigma a’i fod yn fwy hyblyg. Felly mae Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda wedi cefnogi oedolion dros 50 oed na fyddent fel arall efallai wedi sylweddoli bod angen iddynt newid eu harferion.
Lleihau stigma a gwahaniaethu
Gall oedolion hŷn a phroblemau alcohol wynebu rhagfarn o safbwynt eu harferion yfed. Roedd rhaglen Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda yn lleihau’r stigma yn seiliedig ar dystiolaeth o’r maes iechyd meddwl. Roedd y gweithgareddau’n targedu’r boblogaeth yn gyffredinol, ynghyd â sefydliadau, teuluoedd ac unigolion sy’n profi problemau o safbwynt alcohol. Llwyddwyd i normaleiddio trafodaethau am alcohol, aethpwyd i’r afael â stereoteipiau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran, a dylanwadwyd ar bolisïau er mwyn mynd i’r afael â stigma strwythurol. Roedd Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda wedi helpu’r rheiny sydd â phroblemau alcohol yn uniongyrchol, trwy roi cefnogaeth un-i-un, eu helpu i ymdopi â phrofiadau negyddol, eu helpu i ganfod ymdeimlad newydd o bwrpas trwy wirfoddoli a gweithgareddau cymdeithasol, ynghyd â meithrin rhwydwaith cefnogol o gyfoedion.