Mae Amgylchedd Adeiledig yn faes pwnc eithaf bach o fewn Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, lle mae cryfderau ymchwil presennol fel arfer ym maes pensaernïaeth, technoleg bensaernïol, adeiladu, rheoli adeiladu, peirianneg sifil ac isadeiledd. Mae’r tîm yn cynnwys aelodau o staff siartredig ym mhob un o’r disgyblaethau proffesiynol hyn, ac wedi ei seilio ar dros dri deg mlynedd o brofiad proffesiynol a diwydiannol cyfunol. 

Mae’r tîm Amgylchedd Adeiledig yn defnyddio sail pwnc proffesiynol a diwydiannol eang  sy’n cynnwys set sgiliau technegol, gwyddonol, rheolaethol, deddfwriaethol, creadigol, hanesyddol a dadansoddol sy’n addas i ymchwil yn y meysydd hyn, a chyfuniadau ohonynt. Cryfderau ymchwil pwysig yw perthnasoedd dymor y tîm gyda sefydliadau sgiliau sector, proffesiynol a diwydiannol, a’r potensial, o ganlyniad, i ddatblygu prosiectau ymchwil ar y cyd mewn cydweithrediad â sefydliadau trydydd sector, preifat a chyhoeddus.

Meysydd Ymchwil 

Mae’r ystod o gyfleoedd am ymchwil cydweithredol o fewn y cyd-destunau hyn a awgrymwyd yn eang, yn enwedig yn y meysydd all gael eu hystyried yn strategol o fewn y sectorau adeiladu a seilwaith, megis gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a pharatoi cymdeithas ar gyfer y dyfodol yn erbyn bygythiadau amgylcheddol naturiol ac a weithgynhyrchwyd. Felly, efallai y bydd themâu o’r fath yn dechnegol yn nhermau datblygu deunyddiau, yn ymwneud â phroses pan mae’n dod i ddatblygu methodolegau, technegau a’u hanghenion addysg a hyfforddi cysylltiedig yn y dyfodol, neu ôl-weithredol yn nhermau adnewyddu a gwella pan werthfawrogwn fod cymaint o’r amgylchedd adeiledig eisoes yn bodoli. 

Wrth edrych yn ôl ac ystyried yr amgylchedd adeiledig, rydym hefyd yn dysgu llawr iawn wrth ymchwilio i’n gorffennol a gall dadansoddi hanesyddol yn yr holl gyd-destunau a nodwyd uchod gyflwyno cyfleoedd ymchwil sy’n gysylltiedig â sut mae’r amgylchedd adeiledig, ei dechnolegau, ei bensaernïaeth ac felly cymdeithas wedi esblygu gydag amser, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig.    

Meysydd o Ddiddordeb ar gyfer Ymchwil yn y Dyfodol 

Prif uchelgais ymchwil y tîm pwnc yw ymestyn yr arfer diwydiannol a phroffesiynol presennol tuag at weithgaredd all ddod yn gatalydd yn esblygiad technolegau newydd, methodolegau gwell, neu ddealltwriaeth ddyfnach o’n gorffennol hanesyddol. Fodd bynnag, mae’n bwysig datblygu dull ymchwil sydd â’r nod o wella a chyfoethogi bywydau’r unigolion a’r gymdeithas ehangach drwy lynu at y safonau moesegol a moesol uchaf, o fewn sector sydd yn aml yn cynnwys llawer o bartïon unigryw ac uchelgeisiol sydd â diddordeb.      

Wrth i gynaliadwyedd fod yn ystyriaeth hanfodol ym mhob gweithgarwch dynol, efallai mai’r sector amgylchedd adeiledig yw’r un mwyaf arwyddocaol lle mae bygythiadau critigol i bobl a chymdeithas yn amlygu eu hunain fwyaf. Mewn perthynas â hyn felly, bydd unrhyw ymchwil ôl-weithredol, technolegol, sy’n ymwneud â phroses o fewn y maes pwnc Amgylchedd Adeiledig o ddiddordeb i’r tîm Amgylchedd Adeiledig yma ym Mhrifysgol Wrecsam, ac mae’r meysydd o ddiddordeb canlynol yn cael eu cynnig fel cyd-destunau y byddai’r tîm yn falch o ymwneud â nhw:

Peirianneg 

Technoleg deunyddiau; seilwaith peirianneg sifil, technolegau cynaliadwy/adnewyddol; Gwrthsefyll Llifogydd; Teithio Actif; technolegau goddefol
 
Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio
Dylunio pensaernïol, technolegau pensaernïol a chynulliadau adeiladu; datblygu gwledig a threfol; defnydd o dir; treftadaeth naturiol ac adeiladu; seilwaith peirianneg sifil; tai; cymunedau ac amgylcheddau cynaliadwy; gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd; dylunio goddefol

Astudiaethau Daearyddiaeth a’r Amgylchedd
Defnydd o dir; topograffi; hydroleg; gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd

Astudiaethau Busnes a Rheolaeth
Rheoli adeiladu; darpariaeth ddeddfwriaethol; datblygu polisi

Astudiaethau Anthropoleg a Datblygiad
Cyd-destunau hanesyddol yn natblygiad gwledig a threfol Cymru; cymdeithasol pensaernïaeth

Addysg
Addysg yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig yng ngwaith Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (BHDA)

Meysydd Astudio
Cyd-destunau hanesyddol yn natblygiad gwledig a threfol Cymru; tai yng Nghymru; seilwaith peirianneg sifil yng Nghymru; gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd a diogelu arfordir Cymru

Hanes
Hanes pensaernïol; cyd-destunau hanesyddol yn natblygiad gwledig a threfol

Celf a Dylunio: Hanes, Ymarfer a Theori
Beirniadaeth bensaernïol, hanes/hanesyddiaeth bensaernïol; ymarfer pensaernïol

Cwrdd â'r Tîm