Ynghylch y Gyfadran

Mae gan Gyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura, a Pheirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam hanes cyfoethog o arloesedd ym maes y Celfyddydau a Gwyddoniaeth, sy’n dyddio’n ôl i 1887. Mae’n entrepreneuraidd ac yn uchelgeisiol o safbwynt ei chenhadaeth i gyfrannu at dwf economaidd y rhanbarth trwy gysylltiadau cryf â diwydiant ynghyd â meddwl mewn modd creadigol. Rydym yn ymfalchïo yn ein hymchwil gymhwysol - hynny yw, ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth i fyd diwydiant, cymunedau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, a ledled y byd. P’un a yw hynny ar lefel leol neu ryngwladol, ar raddfa fach neu fawr, mae’r pwyslais bob amser ar ddatrys problemau a chyfrannu at anghenion go iawn. 

Meysydd Arbenigedd

Gwaith Myfyrwyr Ymchwil 

Rydym yn ymfalchïo yn ein hymchwil gymhwysol - hynny yw ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth i ddiwydiant a chymunedau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae gwaith ymchwil a chydweithrediadau trawsddisgyblaethol yn gyffredin ar draws adrannau ac mae amrywiaeth eang o arbenigeddau yn bodoli yn y Gyfadran.

An applied art student working