O fewn Technoleg Cyfryngau Creadigol, sydd wedi'i lleoli yn adeilad y Ganolfan Diwydiannau Creadigol, rydym yn cynnig ystod eang o offer a meddalwedd sy'n gysylltiedig â diwydiant i helpu i ddatblygu ymchwil ac ymarfer. Gyda’n stiwdios teledu a recordio llawn offer ar y safle sy’n cynnwys camera 4K a HD, ystafell reoli aml-gamera, ac ystafelloedd ôl-gynhyrchu, mae gennym y gallu i weithio’n agos gyda phartneriaid mewnol ac allanol ym maes cynhyrchu cyfryngau a thechnoleg cynhyrchu teledu.

Rydym yn aml yn cynnal digwyddiadau cymunedol, fel gŵyl ryngwladol FOCUS Wales. Mae gan ein tîm amrywiaeth o brofiadau bywyd yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u hymchwil i’r byd go iawn, gyda DJs, peirianwyr sain, gwneuthurwyr ffilm, a cherddorion yn eu plith! Mae rhai o’r prosiectau sy’n weithredol ar hyn o bryd yn cynnwys effaith dyluniad metronom ar berfformiad cerddorion, cydweithrediad â Choleg Brenhinol Cerdd Sweden ar ymarfer stiwdio recordio, a natur fregus yr economi gigiau i gerddorion.

Cwrdd â'r Tîm