Llwybrau at Effaith
Mae dulliau cyfnewid a rhannu gwybodaeth yn lwybrau at effaith.
I ddechrau, gwnewch yn siwr fod modd eich ‘canfod’ fel arbenigwr yn eich maes. Mae hwn yn sylfaen gadarn ar gyfer rhannu eich gwaith – cofiwch, mae cyfnewid gwybodaeth yn rhagflaenydd effaith. Yn ail, gwnewch yn siwr fod eich gwaith chi allan yno ac yn hygyrch.
Mae cael llwybrau effaith y neu lle a gwybod beth sy’n llwybr yn medru helpu gydag adran ‘effaith’ ceisiadau grant.
Llwybrau adnabyddus at effaith
• Cyhoeddiadau
• Cyhoeddiadau/darllen llyfr neu lawrlwythiadau
• Cyflwyno sgwrs mewn cynhadledd neu weithdy
• Sgwrsio â phobl am eich gwaith ymchwil
• Sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu gyda’ch ymchwil
• Cynllun effaith cadarn
Nawr fod gennych chi bresenoldeb ar y we y gellir dod o hyd iddo i bobl eich canfod chi os ydyn nhw’n chwilio, mae’n amser troi eich sylw at ymdrechu i gyrraedd pobl, yn hytrach na gobeithio y gwnawn nhw faglu ar eich traws chi. Yr allwedd yw dilyn y 5 egwyddor a chynllunio, cynllunio, cynllunio!
Content Accordions
- Llofnod e-bost
Gallai eich llofnod e-bost fod yr argraff gyntaf rydych chi’n ei wneud ar rhywun, felly mae’n bwysig sicrhau bod chi’n cael hynny’n gywir.
1. Cynhwyswch gysylltiadau cyfryngau cymdeithasol gweithredol sy’n berthnasol i’ch gwaith chi’n unig. Nid oes angen cynnwys eich tudalen Instagram i’ch cath, Jeffrey. Os nad ydych chi’n weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol, ystyriwch ychwanegu cyswllt i un o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol perthnasol y brifysgol e.e. ymchwil, Nyrsio neu Beirianneg.
2. Ystyriwch ychwanegu llun proffesiynol. Mae Outlook yn caniatàu i chi ychwanegu llun proffil i’ch cyfrif; mae bob amser yn dda gweld pwy rydych chi’n anfon e-bost ato/ati.
3. Cynhwyswch eich galwad i weithredu (neu nifer ohonyn nhw). Newydd gyhoeddi llyfr ac eisiau i bobl ei ddarllen? Ychwanegwch ddolen. Wedi uwchlwytho sleidiau am fethodoleg neu drafodion cynhadledd? Ychwanegwch ddolen. Wedi creu gwefan ar gyfer eich prosiect newydd? Ychwanegwch ddolen!
- Proffil gwefan y Brifysgol
Sicrhewch fod eich proffil yn gyfredol (ac yn bodoli) ar wefan Prifysgol Wrecsam y gall pobl o’r tu allan ei gweld. Wrecsam Research Information System.
- Google Scholar
Mae llawer o bobl yn defnyddio Google Scholar erbyn hyn ar gyfer chwilio llenyddiaeth, ac mae yna ffordd iawn o ychwanegu proffil academaidd. Os nad oes gennych chi un eisoes, ewch ati i greu proffil Scholar.
- Ewch i Google Scholar a chlicio ar ‘my profile’
- Llenwch eich manylion a dilysu eich cyfeiriad e-bost academaidd
- Ewch ati i gadarnhau eich erthyglau ac ychwanegu unrhyw un nad yw Google wedi dod o hyd iddyn nhw’n awtomatig
- Ychwanegwch lun proffil fel bod pobl yn gwybod mai chi sydd yno!
- Giat Ymchwil
Yn yr un modd, lluniwch dudalen Giat Ymchwil, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes. Yn ogystal ag ychwanegu gwaith wedi’i gyhoeddi cewch ychwanegu gwaith rydych chi wrthi’n ei gynllunio a gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd. Gallwch ddefnyddio Giat Ymchwil i gysylltu gyda pobl yn eich adran neu eich tîm chi, a gall academyddion â diddordeb estyn allan atoch chi neu ofyn am gopïau llawn o’ch papurau ymchwil
- Gwefan Bersonol
Os oes gennych chi’r amser a’r gallu i greu gwefan bersonol, yna ewch amdani! Yn ei hanfod gallech chi droi eich CV yn dudalen hygyrch i werthu eich hunan proffesiynol.
Ychwanegwch eich cyhoeddiadau, gweithleoedd, profiadau, diddordebau ymchwil a’ch prosiectau cyfredol. Cynhwyswch y galwadau i weithredu, fel rhannu gwaith, prosiectau neu recriwtio cyfranogwyr.
- Cyfryngau Cymdeithasol
Os nad ydych chi wedi neidio i fyd y cyfryngau cymdeithasol eisoes, beth am ddechrau arni heddiw?
Mae Trydar yn rhagorol ar gyfer negeseuon byr, bachog, ac mae’n hawdd cysylltu gydag unrhyw academydd yn y byd os oes ganddyn nhw gyfrif Trydar (@enwunigolyn). Defnyddiwch hashnodau i gyrraedd cynulleidfaoedd penodol e.e. #AcademicChatter, #PhDChat, ac aildrydar pethau diddorol sy’n gysylltiedig â’ch maes chi. Mae ffotograffau trawiadol yn denu mwy o sylw fel arfer, fel mae fideos diddorol, byr.
Os yw eich pwnc chi’n fwy gweledol, fel celf neu theatr, efallai mai Instragram yw’r cyfrwng gorau. Mae hwn yn blatfform rhannu delweddau sydd hefyd yn defnyddio hashnodau, e.e. #CatsOfInstagram, a medrwch ddilyn pobl eraill â diddordebau tebyg.
- Rhannu Sleidiau
Os ydych chi wedi cyflwyno mewn cynhadledd ac yr hoffech chi rannu eich sleidiau’n hawdd, ystyriwch eu rhoi ar Slideshare ac yna eu e-bostio neu eu rhannu trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn eu gwneud yn hawdd i eraill sy’n chwilio am eich pwnc chi ar Slideshare.
Hygyrchedd a Chynhwysiad
Ceisiwch gofio gwneud llythyr gyntaf pob gair mewn hashnod yn llythyren fawr fel y gall darllenwyr sgriniau adnabod y geiriau’n haws i’r rhai â nam ar eu golwg. Hefyd ceisiwch ychwanegu ‘testun amgen’ at unrhyw ddelweddau fel bod darllenwyr sgriniau’n darllen disgrifiad y delweddau.
Dylech osgoi negeseuon sy’n cynnwys dim ond ‘emojis’, gan fod hyn yn niwsans i’r rhai sy’n gorfod gwrando arnyn nhw: “wyneb efo llygaid yn rholio, wyneb efo llygaid yn rholio, wyneb efo llygaid yn rholio, wyneb anhapus, wyneb niwtral, dwylo’n clapio, dwylo’n clapio” ac ati.
Os ydych chi’n rhoi fideo gyda disgrifiadau sicrhewch fod gennych chi is-deitlau neu gapsiynau fel bod y rhai wedi colli eu clyw yn medru dilyn y cynnwys.
Defnyddiwch iaith niwtral o ran rhywedd. Oni bai fod eich gwaith sy’n ymwneud yn benodol ag un rhyw, peidiwch â defnyddio iaith sy’n tueddu tuag at un rhywedd, e.e.. gall dynol ryw neu ddynion fod yn ddynoliaeth a phobl yn hawdd.
Os ydych chi’n cynnwys ffotograffau stoc yn eich neges, dylech osgoi ailadrodd stereoteipiau; er enghraifft, arweinydd yn cael ei gynrycholi gan ddyn gwyn bob tro, a nyrs yn cael ei chynrychioli gan ddynes bob tro. Defnyddiwch ystod o bobl yn eich delweddau chi. Mae cynrychiolaeth yn allweddol: “fedrwch chi ddim bod yr hyn na fedrwch ei weld”.
Meddyliwch am yr iaith rydych chi’n ei defnyddio. Efallai eich bod chi’n meddwl ei bod yn gwbl ddiniwed dweud fod rhywbeth yn ‘wallgo’ neu bod eich sgiliau trefnu ychydig fel ‘anhwylder gorfodaeth obsesiynol’, ond ystyriwch sut y gallai hyn swnio i rywun sydd mewn anhawster gyda’u hiechyd meddwl. Dylech greu negeseuon parchus.