Mesur neu Gofnodi eich Effaith
Nawr eich bod chi wedi cynnal eich gwaith, cydgynhyrchu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid a chyflawni’r effeithiau a fwriadwyd, mae’n amser profi hynny.
Mae’n rhaid i bob unigolyn yn eich tîm ymchwil ganfod ffordd o gofnodi eu heffaith a’u syniadau wrth iddyn nhw fynd ymlaen. Gallai hyn fod yn lyfr nodiadau, ap nodiadau ar y ffôn, ffolderi e-bost, rhannu cofnodion yn OneDrive neu Teams, neu ddefnyddio Excel. Mae’n anodd iawn cofio rhywbeth ddywedodd rhywun bum mlynedd yn ôl!
Content Accordions
- Un enghraifft
Gwnaeth aelod 1 y tîm drefnu gweithdy ar gyfer cymorthyddion gofal iechyd a sylwi fod yr holl leoedd yn llawn a fod pawb i’w gweld yn mwynhau’r diwrnod. Cynhwyswyd cwestiwn yn y sleid olaf yn gofyn a oedd y mynychwyr wedi dysgu rhywbeth heddiw – yr adborth oedd fod pawb wedi dysgu rhywbeth newydd ac wedi gadael sylwadau. Gwnaeth aelod 1 y tîm lawrlwytho’r ymateb i’r cwestiwn ac arbed y ffeil mewn ffolder ‘Effaith’ y prosiect ar OneDrive yn cael ei rannu gyda gweddill y tîm.
Yn ddiweddar bu aelod 2 y tîm yn rhan o grŵp llywio a chyflwynodd bapur fel tystiolaeth i newid rhywbeth yn y sector gofal iechyd. Roedd aelod arweiniol Bwrdd Iechyd ac Aelod Seneddol lleol yn y cyfarfod. Yn dilyn y cyfarfod gwnaeth aelod 2 y tîm anfon e-bost at yr aelodau pwysig hyn yn y grŵp llywio yn gofyn am baragraff byr ynghylch sut y byddai ei bapur ymchwil yn cael ei ddefnyddio i newid rhywbeth a’r dyddiad disgwyliedig. Cafodd atebion e-bost, a gafodd eu lawrlwytho a’u harbed yn y ffolder ar y cyd. Gellir dilyn y rhain ar yr adeg priodol i wirio fod y papur ymchwil wedi’i ddefnyddio neu wedi cynorthwyo i ddatblygu agenda’r cyfarfod.
Roedd aelod 3 y tîm yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r aelod o’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gweithdai wedi’u seilio ar eu gwaith ymchwil i gleifion yn yr ysbyty. Roedd yn ymddangos fod y cleifion yn elwa ohono, ond roedd angen dull cadarn o fesur hyn. Roedd aelod 3 y tîm eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth foesegol i gynnal cyfweliadau/anfon holiaduron yn dilyn y gweithdai at y cleifion, staff yr ysbyty a’r aelod Bwrdd Iechyd. Ar ôl gwneud hyn arbedwyd y cofnodion/canlyniadau yn y ffolder ar y cyd yn barod i’w dadansoddi pan fo’n bosibl nodi a datblygu’r effaith.
Syniadau ar gyfer cofnodi effaith
- Cyfri nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld ag arddangosfa ac yna tasg i fesur yr effaith a ddymunir wrth yr allanfa. Gan fod hwn yn ymchwil creadigol, meddyliwch am ddulliau creadigol e.e. gludo dotiau ar siart mawr, rhoi botymau mewn jariau atebion.
- Cynnwys holiaduron byr ar ddechrau a diwedd gweithdai i fesur yr effaith a ddymunir – mae hyn yn ei hanfod yn arbrawf cyn ac ar ôl y prawf ar raddfa fechan.
- Rhoi ffurflenni adborth neu werthuso ar seddau yn ystod yr egwyl cinio mewn cynhadledd fel fod gan bobl rywbeth i’w lenwi wrth ddychwelyd i’w lle ar ôl cinio.
- Gofyn i ffigurau pwysig, hynny yw, y rhai sy’n gyfrifol am newid, am dystebau ynghylch sut y gwnaeth eich ymchwil chi arwain neu gyfrannu’n uniongyrchol at newid. Gofynnwch iddyn nhw fod yn benodol, neu lunio cwestiynau iddyn nhw sy’n gofyn am atebion penodol e.e. beth yw’r gwerth ariannol, pa ran o’r ymchwil arweiniad at ba newid ym mholisi X.
- Gwnewch yn siwr fod gennych chi gymeradwyaeth foesegol i gasglu manylion cyswllt fel y medrwch chi gysylltu â phobl ar ôl digwyddiadau i weld a oes unrhyw ddysgu dilynol neu newid mewn ymddygiad.
- Os yw’n bosibl cofnodwch ‘linell sylfaen’ y pethau rydych chi’n dymuno eu newid, fel y medrwch chi ddarparu tystiolaeth rifiadol gadarn fod rhywbeth wedi cynyddu 200%, er enghraifft.
- Gofynnwch am dystebau gan arweinyddion busnes ynghylch gwella prosesau gwaith, trosiant neu gynhyrchion newydd.
Cofiwch, mae tystiolaeth dda yn i) annibynnol ohonoch chi neu eich sefydliad, ii) yn gadarn a diduedd, iii) ar gael yn gyhoeddus ac y gellir craffu arno.