Ysgrifennu Astudiaeth Achos Effaith
Felly fe wnaethoch chi gynllunio eich effaith, cydgreu gwybodaeth, cynnal astudiaethau, gwneud effaith a chofnodi eich effaith; felly nawr mae’n amser i chi ei droi’n astudiaeth achos ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
Mae astudiaethau achos effaith o’r radd flaenaf:
- Yn arwyddocaol – wnaethoch chi wneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau pobl, elw busnesau, twristiaeth i economi Cymru …?
- Yn bellgyrhaeddol – a yw eich effaith wedi cyrraedd gwahanol wledydd, gwahanol ganghennau cymdeithasau pwnc, gwahanol fathau o sefydliadau busnes …?
- Yn mynegi eu hunain yn glir – a allai eich mam anacademaidd ddeall buddion eich gwaith …?
- Wedi’i seilio ar dystiolaeth argyhoeddiadol – wnaethoch chi gyhoeddi blog gafodd ei ddarllen gan 60 o bobl neu wnaethoch chi gydysgrifennu adroddiad gyda’ch rhanddeiliaid a gafodd ei lawrlwytho 5 miliwn o weithiau a gwnaeth nifer o asiantaethau newyddion gysylltu gyda chi …?
- Yn canolbwyntio ar y buddion nid y llwybrau at effaith – ysgrifennwch am beth wnaeth pobl o ganlyniad i ddysgu am eich gwaith ymchwil chi, yn hytrach na sut y gwnaethon nhw ddysgu am eich gwaith ymchwil chi …
Gwnewch yn siwr eich bod yn cyfleu ac yn tystiolaethu arwyddocâd eich effaith. Dylech creu datganiad problem yn adlewyrchu arwyddocâd, y byddwch yn ei ddatrys; er enghraifft, roedd angen datblygu brechlyn i imiwneiddio yn erbyn COVID19, a oedd ac sy’n parhau i fod yn broblem arwyddocaol enfawr. Trwy ddweud bod eich ymchwil wedi arwain at frechlyn llwyddiannus byddai hynny’n datrys problem arwyddocaol.
Peidiwch ag ysgrifennu am y buddion i’r ymchwilwyr, y sefydliad neu’r ddisgyblaeth, gan fod hyn yn rhan annatod o unrhyw waith ymchwil. Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn mesur yr effaith yn y byd go iawn (ac wrth gwrs mae’r effaith ar y byd go iawn a’r byd academaidd yn gorgyffwrdd).
Ystyriwch gyfuno astudiaethau achos mewn meysydd tebyg os yw’n debygol o gryfhau eich cyflwyniad a rhoi hwb i’ch graddfa sêr debygol.
Sicrhewch eich bod yn cyfleu ac yn rhoi tystiolaeth o gyrhaeddiad eich effaith. Dylech greu datganiad problem sy’n adlewyrchu cyrhaeddiad, y byddwch yn ei ddatrys. Gan ddefnyddio’r un enghraifft, petaech chi’n creu brechlyn COVID19 ac yn llwyddo i’r gyflenwi i fwyafrif y gwledydd yn y bydd, rydych chi wedi dangos tystiolaeth o gyrhaeddiad.
Peidiwch â gorwerthu eich cyrhaeddiad. Os yw eich cyrhaeddiad yn genedlaethol neu’n isgenedlaethol yn bennaf, cadwch y fframio ar y lefel hon a nodi pam bod y lefel honno’n bwysig. Pan rydych chi wedi cyflawni arwyddocâd yn yr ardal hon gallai fod yn bosibl lledaenu eich effaith ar lefel ehangach. Serch hynny, gall cyrhaeddiad fod ar raddfa neu unedau cymdeithasol ac nid yw’n ddaearyddol o anghenraid., felly gwiriwch am unrhyw fuddiolwyr annisgwyl a allai fod yn defnyddio eich gwaith ymchwil. Nodwch grwpiau, sectorau neu wledydd â phroblemau tebyg a allai elwa o’ch effeithiau chi.
Cyflwynwch yr effaith ac nid y llwybr. Yn y blychau ‘Crynodeb’ a ‘Disgrifiad yr Effaith’, dylai mwyafrif yr wybodaeth fod am yr effaith ei hun. Beth oedd y budd a pham oedd hyn yn bwysig? Cofiwch, dydy rhannu’r ymchwil ddim yn effaith.
Ychydig o bethau eraill i’w cadw mewn cof …
Dylid asesu effaith yn hydredol – wnaeth yr ymgysylltu gyda rhanddeiliaid barhau ar ôl y prosiect gwreiddiol?
Mae tystiolaeth a gyhoeddir gan drydydd parti yn ei gwneud yn fwy credadwy – e.e. elusen oedd yn gyd-awdur adroddiad ac wedi’i gyhoeddi ar eu gwefan.
Dolennau defnyddiol
re.ukri.org/research/ref-impact
www.publicengagement.ac.uk/about-engagement/current-policy-landscape/public-engagement-and-ref