Boreau Coffi i Ymchwilwyr
Mae Boreau Coffi i Ymchwilwyr yn ardal ryngweithiol anffurfiol ar gyfer holl staff a myfyrwyr ymchwil i drafod syniadau a chyfarfod ag ymchwilwyr sydd ar draws y Brifysgol. Ymhellach, maen nhw’n darparu’r cyfle i drafod unrhyw ymholiadau, cyfleoedd, neu broblemau, ag aelodau o dîm y Swyddfa Ymchwil.
Cynhelir pedwar bore coffi yn ystod y flwyddyn academaidd 2024/25, pob un â themâu ymchwil penodol.
Nid oes angen archebu eich lle i fynychu’r boreau coffi, ond os hoffech wahoddiad outlook, cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk.
Tachwedd: Bore Coffi Mis Ysgrifennu Academaidd
- Dydd Llun 4ydd Tachwedd, 10:00-11:30, B14.
- Mae Bore Coffi mis Tachwedd wedi ei bennu ar gyfer Mis Ysgrifennu Academaidd; darganfyddwch beth sydd dan sylw, sut i gyfrannu, awgrymiadau ysgrifennu gwych, a chyflwyno eich addewid ysgrifennu.
Chwefror: Bore Coffi Effaith Ymchwil
- Dydd Mercher 5ed Chwefror, 10:00-11:30, OpTIC Uned 14
- Mae Bore Coffi mis Chwefror wedi ei bennu i Effaith Ymchwil! Dewch i ni siarad am yr effeithiau a’r buddion y mae eich ymchwil yn ei gael ar y byd go iawn, edrych ar astudiaethau achos presennol, a dechrau cynllunio effaith.
Ebrill: Bore Coffi Creadigrwydd ac Arloesedd
- Dydd Mawrth 15fed Ebrill, 10:00-11:30, Stryd y Rhaglaw, Shed Space
- Mae Bore Coffi mis Ebrill wedi ei bennu i Greadigrwydd ac Arloesedd! Thema Diwrnod Creadigrwydd ac Arloesedd 2025 yw “camwch allan ac arloeswch”; ymunwch â ni i drafod sut y gall eich ymchwil wneud hynny.
Mehefin: Diwylliant Ymchwil
- Dydd Mawrth 5ed Mehefin, 10:00-11:30, Llaneurgain, Ystafell 2
- Mae Bore Coffi mis Mehefin wedi ei bennu i Ddiwylliant Ymchwil! Pam mae diwylliant ymchwil yn hynod o bwysig, sut y gallwch chi gyfrannu at ddiwylliant cydweithredol cynhwysol, a sut mae diwylliant yn cael effaith ar eich taith academaidd? Dewch i ddysgu mwy.