
Effeithiolrwydd Personol
Ymchwilydd Hyderus: Effeithiolrwydd Personol
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhan o'n Rhaglen Ymchwilwyr Hyderus, sy'n canolbwyntio ar Effeithiolrwydd Personol ym Maes B o'r Fframwaith Datblygu Ymchwil. Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'r rhinweddau personol a'r dull o fod yn ymchwilydd effeithiol.
Mae pob sesiwn yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at galendrau Outlook myfyrwyr PGR. Anogir aelodau staff i fynychu'r sesiynau hyfforddi hyn a gallant anfon e-bost at researchoffice@wrexham.ac.uk i gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau a restrir isod.
Sesiwn | Dyddiad / Amser | Lleoliad | Deilliannau Dysgu |
---|---|---|---|
Gwydnwch Ymchwil PhD | 25 Chwefror 2026 11:00-12:00 |
Wyneb yn Wyneb B103 |
Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar gysyniad cydnerthedd a'i bwysigrwydd wrth ddelio gyda heriau ymchwil academaidd. Bydd gennych hefyd gyfle i adfyfyrio ar eich taith ymchwil eich hun, gan gynnwys yr adfyd y gallasech fod wedi'u hwynebu a'u goresgyn. Yn ogystal, byddwch yn dysgu sut i ymgysylltu gyda hunan-adfyfyrio effeithiol er mwyn ehangu eich cryfder personol ac academaidd. Byddwn yn trafod strategaethau dysgu cydnerth ac yn adnabod dulliau ymarferol o gefnogi eich lles, cymhelliad a chynnydd drwy gydol eich taith ymchwil. P'un a ydych ond newydd ddechrau eich PhD neu'n agosáu at ei gwblhau, mae'r sesiwn hon yn darparu amgylchedd cefnogol er mwyn datblygu sgiliau fydd yn eich helpu i ffynnu. Deilliannau Dysgu |
Sut i oresgyn syndrom y ffugiwr | 11 Mawrth 2026 13:00-14:00 |
Wyneb yn Wyneb |
Mae'r sesiwn hon yn archwilio syndrom y ffugiwr mewn lleoliadau academaidd ac ymchwil, gan helpu mynychwyr i adnabod a rheoli eu teimladau o hunan-amheuaeth. Drwy strategaethau ymarferol ac arferion adfyfyriol, bydd mynychwyr yn dysgu sut i adeiladu hyder yn eu galluoedd ymchwil, cymryd gofal o'u datblygiad proffesiynol a meithrin dull mwyn cydnerth a gweithredol tuag at eu gyrfaoedd. Deilliannau Dysgu |
Ysgrifennu Eich Cynllun Datblygiad Personol | 25 Mawrth 2026 15:00-16:00 |
Ar-lein |
Mae creu cynllun datblygu personol (PDP) yn gam pwysig i unrhyw un sydd am ddilyn PhD neu ddechrau ar daith ymchwil. Bydd y sesiwn yn arwain mynychwyr i adfyfyrio ar eu cynnydd, gan adnabod y sgiliau a'r adnoddau maent eu hangen, a gosod nodau y gellir eu cyflawni er mwyn cefnogi eu hamcanion ymchwil. Bydd y sesiwn yn cynnwys cynghorion ymarferol ar gyfer datblygu PDP effeithiol a realistig, gan eich grymuso i gymryd perchnogaeth o'ch twf proffesiynol a llwyddo drwy gydol y daith ymchwil. Deilliannau Dysgu |
O Rwydweithio i Gydweithio | 23 Ebrill 2026 10:00-11:00 |
Ar-lein |
Mae'r sesiwn hyfforddiant yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithrediad ymchwil ar draws pob disgyblaeth academaidd. Mae'n canolbwyntio ar y trawsnewid o adeiladu rhwydweithiau proffesiynol i sefydlu partneriaethau pwrpasol, tymor hir sy'n gwella ansawdd a thraweffaith ymchwil. Mae'r sesiwn yn archwilio technegau cydweithredu effeithiol gydag ymchwilwyr eraill mewn meysydd meis ceisiadau grant, rhoi prosiectau ar waith a chyhoeddi canlyniadau. Yn ogystal, mae'r sesiwn yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i adnabod a chysylltu gyda chydweithredwyr posib. Bydd mynychwyr yn ennill yr wybodaeth a'r strategaethau sy'n angenrheidiol er mwyn meithrin cydweithrediadau academaidd llwyddiannus sy'n arwain at ddeilliannau ystyrlon ac arloesol. Deilliannau Dysgu |
Diffinio eich Fframwaith Methodolegol | 13 Mai 2026 10:00-11:00 |
Wyneb yn Wyneb B103 |
Mae'r sesiwn hon yn helpu ymchwilwyr i ddatblygu fframwaith methodolegol eglur a thrylwyr ar gyfer eu prosiectau. Bydd mynychwyr yn archwilio ac yn darparu beirniadaeth ar amrywiol fethodolegau ymchwil, gan eu galluogi i adnabod cryfderau a gwendidau pob dull a'u cymhwyso i'r materion cymhleth yn eu cynigion eu hunain. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd ymchwilwyr yn gallu cyfiawnhau eu dewisiadau methodolegol yn hyderus gan ddangos sut mae eu hagwedd hwy yn alinio gydag amcanion eu hastudiaeth. Deilliannau Dysgu |
Rheoli Eich Ymchwil: Sgiliau ar gyfer Llwyddiant | 6 Mai 2026 14:00-15:00 |
Ar-lein |
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar strategaethau ymarferol ar gyfer rheoli eich prosiect ymchwil yn unol ag amserlenni eich cynnig prosiect. Bydd mynychwyr yn dysgu sut i dorri prosiect yn dasgau y gellir eu rheoli, gosod cerrig milltir y gellir eu cyflawni a monitro cynnydd er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar y trywydd cywir. Bydd y sesiwn hefyd yn trafod dulliau effeithiol o addasu cynlluniau pan mae heriau'n digwydd, gan flaenoriaethu tasgau a chydbwyso galwadau sy'n cystadlu. Bydd y strategaethau hyn yn cynorthwyo ymchwilwyr i gynnal momentwm ac i gyflawni eu hamcanion prosiect yn effeithiol. Deilliannau Dysgu |