
Llywodraethu a Threfnu Ymchwil
Ymchwilydd Hyderus: Llywodraethu a Threfnu Ymchwil
Mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o’n Rhaglen Ymchwilydd Hyderus, sy’n canolbwyntio ar Lywodraethu a Threfnu Ymchwil o fewn Parth C o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i wella dealltwriaeth o’r safonau, gofynion, a’r proffesiynoldeb sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynnal ymchwil.
Mae pob sesiwn yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at galendrau Outlook myfyrwyr PGR. Anogir aelodau staff i fynychu'r sesiynau hyfforddi hyn a gallant anfon e-bost at researchoffice@wrexham.ac.uk i gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau a restrir isod.
Sesiwn | Dyddiad / Amser | Lleoliad | Deilliannau Dysgu |
---|---|---|---|
Ymchwil Foesegol ar Waith | 25 Chwefror 2026 14:00-15:00 |
Wyneb yn Wyneb B103 |
Deilliannau Dysgu |
Ymarfer Ymchwil sy’n Ystyriol o Drawma | 4 Mawrth 2026 11:00-12:00 |
Ar-lein |
Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno egwyddorion ymchwil sy'n ystyriol o drawma, helpu ymchwilwyr i ddylunio a chynnal astudiaethau sy'n sensitif i anghenion cyfranogwyr a allai fod wedi profi trawma. Yn seiliedig ar Ganllawiau Ymchwil sy'n Ystyriol o Drawma y Brifysgol a'i 10 egwyddor allweddol, mae'r sesiwn yn darparu strategaethau ymarferol er mwyn atal profi trawma am yr eildro a sicrhau arferion ymchwil moesegol. Yn ogystal, mae'n pwysleisio pwysigrwydd lles yr ymchwilydd ac yn cynnig arweiniad ar reoli traweffaith emosiynol gweithio gyda deunydd sensitif, neu ddeunydd a all beri gofid. Deilliannau Dysgu |
Deall Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eich ymchwil | 11 Mawrth 2026 11:00-12:00 |
Wyneb yn Wyneb B07 |
Bydd y sesiwn hon yn archwilio ystod o ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y dylai pob ymchwilydd fod yn ofalgar ohonynt yn eu hamrywiol ddulliau o weithio. Bydd yn cwmpasu tri maes eang:(i) y fframweithiau, cyfrifoldebau, polisïau a llenyddiaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y mae ymchwilwyr angen talu sylw iddynt, (ii) sut allai'r rhain effeithio ar unigolion - ymchwilwyr, cydweithwyr ac ymatebwyr data a (iii) beth allai hyn ei olygu ar gyfer arferion ymchwil, yn arbennig felly cymwysiadau moesegol, recriwtio a chasglu data. Cefnogir y sesiwn gyda defnydd o enghreifftiau cymhwysol enghreifftiol. Deilliannau Dysgu |
Hanfodion Ymchwil Agored | 15 Ebrill 2026 11:00-12:00 |
Ar-lein |
Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno egwyddorion hanfodol ymchwil agored, gan ganolbwyntio ar dryloywder, pa mor dda y gellir eu hatgynhyrchu a thraweffaith. Mae'r sesiwn yn cynnwys arferion hanfodol megis cyhoeddi mynediad agored, rhannu data ac egwyddorion FAIR - Chwiliadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol y gellir eu Hailddefnyddio. Bydd mynychwyr yn dysgu am ffyrdd ymarferol o ymgorffori'r dulliau hyn yn eu gwaith eu hunain a sut y gall bod yn agored i waith ymchwil agored ehangu gwelededd, hygrededd a pherthnasedd cymdeithasegol deilliannau ymchwil. Deilliannau Dysgu |
Cyflwyniad i Ariannu Ymchwil a Rheoli Grantiau | 21 Ebrill 2026 14:00-15:00 |
Wyneb yn Wyneb B103 |
Mae'r sesiwn hon yn cynnig trosolwg o gyfleoedd ariannu ymchwil a phrif elfennau rheoli grant yn effeithiol. Bydd mynychwyr yn dysgu sut i adnabod ffynonellau ariannu priodol, creu cymwysiadau cystadleuol a deall y cyfrifoldebau sy'n dod gyda rheoli grantiau a ddyfernir. Yn ogystal, mae'r sesiwn yn cynnwys strategaethau ymarferol ar gyfer cyllidebu, cydymffurfio, adrodd ac ehangu traweffaith ymchwil a ariennir. Deilliannau Dysgu |
Masnacheiddio eich Ymchwil | 29 Ebrill 2026 13:00-14:00 |
Ar-lein |
Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno ymchwilwyr i'r prosesau a'r cyfleoedd ar gyfer trawsnewid allbynnau ymchwil yn ddatrysiadau arloesol a mentrau masnachol. Bydd mynychwyr yn archwilio strategaethau ar gyfer gwrachod eiddo deallusol, ymgysylltu gyda phartneriaid yn y diwydiant a datblygu meysydd yn gynnyrch neu wasanaethau y gellir eu dwyn i'r farchnad. Yn ogystal, mae'r sesiwn yn cwmpasu ystyriaethau ymarferol ar gyfer cydweithredu, trwyddedu ac entrepreneuriaeth, helpu ymchwilwyr i ddeall sut i gyfieithu eu gwaith yn arloesi yn y byd go iawn. Deilliannau Dysgu: |