Symleiddio ymchwil

Mae Symleiddio ymchwil yn gynllun newydd ar gyfer 2025-26, sydd wedi’i ddylunio i ddatgyfrinio’r broses ymchwil, gan ei gwneud yn fwy hygyrch a difyr i bawb. O sesiynau blasu 15-munud, i sesiynau cyflwyno methodoleg ymchwil, i drafodaethau manwl ynghylch effaith yn y byd go iawn, mae gan y rhaglen hon rywbeth i’w gynnig i bawb-p’un a ydych yn dechrau arni ym myd ymchwil neu’n dymuno dysgu mwy.

Wedi’i chreu ar sail adborth gan fyfyrwyr a staff, nod Symleiddio ymchwil yw gwneud agweddau allweddol o ymchwil yn fwy syml a chlir, gan ei gwneud yn haws i lywio’r broses bob cam o’r ffordd.

Bydd sesiynau'n cael eu hychwanegu'n awtomatig at galendrau Outlook PGR a Staff Academaidd trwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, os hoffech archebu lle ar unrhyw un o'r sesiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk. 

Sesiwn Dyddiad / Amser Lleoliad Deilliannau Dysgu

Ymgysylltu â’r Senedd

08 Hydref 2025 13:30-15:00

Croesryw B103

Bydd ymgysylltu gyda'r Senedd yn canolbwyntio ar egluro'r broses o roi tystiolaeth a bydd yn cynnwys mewnwelediadau gan drafodaeth panel. Bydd cyfranogwyr yn cael eu harwain drwy dystiolaeth ysgrifenedig a llafar, dysgu sut i adnabod a chael mynediad at gyfleoedd i gyfrannu, ac archwilio astudiaeth achos go iawn a dod â'r broses yn fyw.

Mae'r sesiwn hon yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd ar unrhyw gam o'r broses ymchwil sydd â diddordeb i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bolisi yng Nghymru a thu hwnt.

Deilliannau Dysgu
1. Deall gwerth a'r broses o roi tystiolaeth yn y Senedd
2. Adnabod cyfleoedd i ymgysylltu gyda'r Senedd
3. Dadansoddi astudiaeth achos bywyd go iawn

Proses Adolygiad gan Gymheiriaid Mewnol a sut i gymryd rhan

14 Tachwedd 10:00-10:15

Ar-lein

Mae'r sesiwn fer hon yn cyflwyno'r broses adolygiad cyfoedion mewnol ar gyfer allbynnau ymchwil a gyflwyni'r drwy'r REF (y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil). Bydd yn egluro sut mae'r broses yn gweithio, y buddion o wella ansawdd ymchwil, beth a ddisgwylir gan adolygwyr a sut y gall bod yn rhan ohono symud eich taith ymchwil a'ch datblygiad proffesiynol yn eu blaenau. Bydd y sesiwn yn pwysleisio bod yr holl gydweithwyr yn chwarae rôl hanfodol yn yr ymarfer REF.

Rhoi eich ymchwil allan yna

19 Tachwedd 13:00-14:30

Wyneb yn Wyneb B09

Bydd Cael eich Ymchwil Allan Yna (#AcWriMo25) yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o rannu eich gwaith yn ehangach. Bydd y sesiwn yn cwmpasu gwahanol ddulliau o rannu, cynnig arweiniad ar deilwra'r ffordd rydych yn ysgrifennu a chyflwyno i fod yn addas i'ch cynulleidfa a'r llwyfan, a darparu gofod er mwyn siarad am eich ymchwil i adnabod ffyrdd newydd o greu traweffaith.

Deilliannau Dysgu
1. Archwilio dulliau effeithiol o rannu gwaith ymchwil.
2. Teilwra ysgrifennu a chyflwyniadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
3. Cyfathrebu traweffaith ymchwil mewn ffyrdd hygyrch ac apelgar.

Cyflwyniad i Ymchwil Ansoddol

25 Tachwedd 2025 13:00-14:00

Wyneb yn Wyneb B14

Mae'r sesiwn hon yn darparu cyflwyniad i ymchwil ansoddol gan ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a rhagdybiaethau damcaniaethol sy'n sail i'r dull hwn. Bydd mynychwyr yn archwilio modelau ymchwil allweddol er mwyn dysgu sut i wahaniaethu rhwng safbwyntiau cadarnhaol, ôl-gadarnhaol, beirniadol a lluniadaethol. Bydd y sesiwn hon hefyd yn cyflwyno dulliau ansoddol a strategaethau cyffredin ar gyfer casglu data, gan helpu mynychwyr i ddeall sut mae rhagdybiaethau athronyddol yn dylanwadu ar benderfyniadau ymchwil ymarferol. Wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr a staff, mae'r sesiwn hon yn anelu i godi hyder wrth roi dulliau ymchwil ansoddol ar waith ar draws amrywiol gyd-destunau academaidd.

Deilliannau Dysgu
1. Deall prif fodelau ymchwil a'u rôl mewn gwaith ymchwil ansoddol.
2. Gwahaniaethu rhwng dulliau cadarnhaol, ôl-gadarnhaol, beirniadol ac adeiladol.
3. Adnabod a rhoi dulliau ymchwil ansoddol cyffredin ar waith.

O Ystadegau i Straeon: Defnyddio Data Meintiol ar gyfer Newid yn y Byd Go Iawn

03 Rhagfyr 10:00-11:00

Croesryw B103

O Ystadegau i Storïau: Mae Defnyddio Data Meintiol ar gyfer Newid yn y Byd Go Iawn yn gwahodd ymchwilwyr sy'n gweithio gyda setiau data rhifyddol i feddwl y tu hwnt i'r rhifau. Bydd y sesiwn hon yn archwilio'r straeon y gall eich data eu hadrodd, y traweffaith yn y byd go iawn y gall ei gael, a sut i drawsnewid ffigyrau yn fuddion ystyrlon. Mae'r sesiwn hon yn rhagarweinydd hyfryd i'n sesiwn Semester 2 ar ddatblygu astudiaethau achos traweffaith REF.

Mae'r sesiwn hon o fudd i unrhyw un a allai fod angen cefnogaeth wrth drawsnewid eu gwaith technegol neu rifyddol yn naratif sy'n perthyn i'r byd go iawn, sy'n hygyrch ac sy'n cael traweffaith ac sydd â'r potensial i wneud newid positif. 

Deilliannau Dysgu
1. Tynnu straeon ystyrlon o ddata meintiol.
2. Cyfathrebu canfyddiadau mewn ffyrdd eglur, hygyrch.
3. Cysylltu mewnwelediadau ynghylch data gyda thraweffaith yn y byd go iawn ac astudiaethau achos REF.

REF 2029 Yr hyn rydyn ni'n ei wybod hyd yn hyn

04 Rhagfyr 10:00-10:15

Ar-lein

Bydd y sesiwn 15 munud hon yn darparu diweddariad ar REF 2029. Byddwn yn amlinellu'r hyn sydd wedi'i gadarnhau, yn tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng REF 2021, ac yn trafod yr hyn sydd yn parhau o dan ystyriaeth. Yn ogystal, byddwn yn archwilio'r traweffeithiau ar gyfer y newidiadau hyn i staff o safbwynt allbynnau, traweffaith, a'r bob, diwylliant a'r amgylchedd. Byddwn hefyd yn awgrymu camau ymarferol er mwyn dechrau paratoi ar gyfer y newidiadau hyn nawr. Bydd y sesiwn yn dod i ben gydag adnoddau ar gyfer gwybodaeth bellach a ffyrdd o barhau i fod yn rhan o bethau wrth i REF 2029 esblygu.
Astudiaeth Achos Effaith REF: Mapio'r Llwybr o Ymchwil i REF

22 Ionawr  2026 10:30-12:00

Croesryw B103

Astudiaeth Achos Traweffaith REF: Bydd Mapio'r Llwybr o Ymchwil i REF yn defnyddio astudiaethau achos go iawn sydd wedi'i gyflwyno i REF2021 er mwyn dangos y gwahaniaeth rhwng cyflwyniadau graddfa isel ac uchel, gan gymharu 2* gyda 4*. 
Bydd y sesiwn yn tynnu sylw at sut mae graddio yn effeithio'n uniongyrchol ar ariannu, gyda 2* yn colli'r cyfle i sicrhau ariannu QR yn gyfan gwb,, tra mae 3* a 4* yn denu cefnogaeth ar gyfer y brifysgol. Drwy edrych yn ôl drwy'r broses, byddwn yn gweld sut mae astudiaethau achos cryf yn cael eu datblygu, gan dynnu ar arferion da yn ogystal â pheryglon cyffredin.
Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno astudiaeth achos traweffaith ar gyfer REF2029 neu ymarferion ymchwil yn y dyfodol. Bydd cael yr wybodaeth a'r gallu i gynllunio, cyflawni a llunio gwaith ymchwil sy'n cael traweffaith ac sy'n achosi newid yn werthfawr ar gyfer swyddi academaidd potensial yn y dyfodol.
Hyrwyddwyr Uniondeb Ymchwil

29 Ionawr 2026 10:00-10:15

Ar-lein

Mae'r sesiwn flasu hon yn cyflwyno Hyrwyddwyr Uniondeb Ymchwil Prifysgolion yr Athro Wulf Livingston a yr Athro Karen Heald. Byddant yn rhannu sylwadau craff ar eu rolau a sut y gallant helpu i gefnogi ymchwilwyr ar draws y sefydliad. Mae'r sesiwn yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddeall pwysigrwydd uniondeb mewn ymchwil ac i ddysgu ble i chwilio am arweiniad pan fo'i angen. Mae'n darparu cyflwyniad cryno i'r rôl a phwysigrwydd Uniondeb Ymchwil wrth feithrin diwylliant o ymchwil cyfrifol a moesegol. Yn ogystal, mae'n cyflwyno trosolwg bras o egwyddorion uniondeb ymchwil ac yn amlinellu prif gyfrifoldebau'r holl staff wrth hyrwyddo arferion gorau.
Cyflwyniad i Ymchwil Meintiol

11 Mawrth 2026 15:00-16:00

Wyneb yn Wyneb B07

Mae'r sesiwn yma'n darparu cyflwyniad cysyniadol a methodolegol i ymchwil meintiol. Wedi'i anelu at rai sy'n newydd i'r dull hwn, bydd yn archwilio dulliau meintiol allweddol ac yn archwilio sut i ddylunio, cynnal a dehongli astudiaethau meintiol yn effeithiol. Bydd cyfranogwyr hefyd yn ennill dealltwriaeth o'r adnoddau a'r technegau sydd eu hangen er mwyn dadansoddi data rhifyddol, gyda chanllawiau ar sut i gymhwyso'r dulliau hyn o fewn eu disgyblaeth eu hunain neu o fewn cyd-destun ymchwil.

Deilliannau Dysgu
1. Deall cysyniadau ac egwyddorion craidd ymchwil meintiol.
2. Adnabod a chymharu dulliau ymchwil meintiol cyffredin.
3. Dehongli a chymhwyso data meintiol o fewn eich disgyblaeth ymchwil eich hun.

Cyflwyniad i  SPSS

17 Mawrth 2026 14:00-14:45

Ar-lein

Mae'r sesiwn 45 munud yma yn darparu cyflwyniad sy'n addas i ddechreuwyr i SPSS, gan arwain mynychwyr drwy'r camau cyntaf hanfodol o ddefnyddio'r meddalwedd. Byddwch yn dysgu sut i ddechrau SPSS, diffinio gwahanol fathau o amrywiolion ystadegol, a mewnbynnu data sylfaenol. Bydd y sesiwn hefyd yn cyflwyno dadansoddiadau ystadegol syml y gellir eu defnyddio i brofi damcaniaethau ymchwil, gan helpu cyfranogwyr i ennill hyder yn defnyddio SPSS ar gyfer eu prosiectau ymchwil eu hunain.

Ymchwil Ymddiried

13 Ebrill 2026 10:00-10:15

Ar-lein

Mae'r sesiwn 15 munud yma'n darparu cyflwyniad cryno i egwyddorion ymchwil y gellir ymddiried ynddynt, pwysleisio pwysigrwydd cynnal ymchwil gydag uniondeb, gonestrwydd a thryloywder. Bydd y sesiwn yn cwmpasu agweddau hanfodol o reoli risg, gan gynnwys adnabod ymchwil sensitif, arfer diwydrwydd dyledus ar brosiectau cydweithredol, sicrhau cydymffurfiad gyda rheoli allforion, gwarchod eiddo deallusol, rheoli gwrthdaro o ran buddiannau a bod yn ymwybodol o beryglon i ddiogelwch cenedlaethol o fewn cydweithrediadau rhyngwladol. Wedi'i gynllunio fel trosolwg bychan, mae'r sesiwn yn darparu staff gyda chanllawiau ymarferol er mwyn cynnal hygrededd, safonau moesegol ac arferion cyfrifol ar draws pob cam o'u hymchwil.

Cyflwyniad i Gorilla 

30 Ebrill 2026 14:00-14:30

Ar-lein

Mae'r sesiwn hon yn darparu cyflwyniad sy'n addas i ddechreuwyr i Gorilla, llwyfan ar gyfer dylunio a chynnal arbrofion ar-lein. Bydd mynychwyr yn dysgu hanfodion sefydlu astudiaethau, creu tasgau a chasglu data, gan ennill sgiliau ymarferol i roi cychwyn ar eu prosiectau ymchwil eu hunain. Mae'r sesiwn wedi'i bwriadu ar gyfer ymchwilwyr sy'n newydd i Gorilla a'i fwriad yw adeiladu hyder wrth ddefnyddio'r llwyfan yn effeithiol.

Y Gelfyddyd o Ymchwil

13 Mai 2026 12:00-16:00

Wyneb yn Wyneb R21

Bydd y sesiwn hon yn eich tynnu oddi allan i'ch amgylchedd ymchwil arferol. Bydd cyfranogwyr yn cael eu paru gydag artistiaid creadigol er mwyn archwilio eich teithiau ymchwil ar gynfas gwag. Y nod yw trochi eich hun mewn ymarfer sy'n eich annog i feddwl a gweithio'n wahanol gan agor llwybrau newydd ar gyfer archwilio. Bydd gweithgareddau ychwanegol yn hwyluso rhwydweithio a hyrwyddo "meddwl y tu allan i'r blwch". Oherwydd natur un i un y prosiect hwn, mae llefydd yn gyfyngedig, ac argymhellir eich bod yn cofrestru'n gynnar.

Deilliannau Dysgu
1. Cydweithredu gydag artistiaid er mwyn archwilio creadigrwydd eu hymchwil.
2. Adfyfyrio ar eu hymchwil o safbwyntiau newydd.
3. Cymhwyso dulliau amgen i rwydweithio a datrys problemau.

Cyflwyniad i R

21 Mai 2026 10:00-10:30

Ar-lein

Mae'r sesiwn hon yn darparu cyflwyniad sy'n addas i ddechreuwyr i R, sef amgylchedd meddalwedd pwerus ar gyfer cyfrifiaduro ystadegol a dadansoddi data. Bydd mynychwyr yn dysgu hanfodion ymdrin â R, gan fewnbynnu a rheoli data a chyflawni dadansoddiadau a delweddiadau syml. Mae'r sesiwn wedi'i bwriadu ar gyfer ymchwilwyr sy'n newydd i R a'i fwriad yw adeiladu hyder wrth ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau ymchwil.

Astudiaeth Achos Effaith REF: Mapio'r Llwybr o Ymchwil i REF

03 Mehefin 2026 10:30-12:00

Croesryw B103

Astudiaeth Achos Traweffaith REF: Bydd Mapio'r Llwybr o Ymchwil i REF yn defnyddio astudiaethau achos go iawn sydd wedi'i gyflwyno i REF2021 er mwyn dangos y gwahaniaeth rhwng cyflwyniadau graddfa isel ac uchel, gan gymharu 2* gyda 4*. 
Bydd y sesiwn yn tynnu sylw at sut mae graddio yn effeithio'n uniongyrchol ar ariannu, gyda 2* yn colli'r cyfle i sicrhau ariannu QR yn gyfan gwbl, tra mae 3* a 4* yn denu cefnogaeth ar gyfer y brifysgol. Drwy edrych yn ôl drwy'r broses, byddwn yn gweld sut mae astudiaethau achos cryf yn cael eu datblygu, gan dynnu ar arferion da yn ogystal â pheryglon cyffredin.
Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno astudiaeth achos traweffaith ar gyfer REF2029 neu ymarferion ymchwil yn y dyfodol. Bydd cael yr wybodaeth a'r gallu i gynllunio, cyflawni a llunio gwaith ymchwil sy'n cael traweffaith ac sy'n achosi newid yn werthfawr ar gyfer swyddi academaidd potensial yn y dyfodol.

Eich Cynllun Ymchwil Personol

16 Mehefin 2026

Ar-lein

Mae'r sesiwn hon yn arwain academyddion drwy'r broses o greu cynllun ymchwil personol i gefnogi eich datblygiad academaidd a phroffesiynol. Bydd mynychwyr yn dysgu sut i osod amcanion eglur, amlinellu strategaethau er mwyn eu cyflawni ac adnabod y sgiliau, yr adnoddau a'r cerrig milltir sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen.

Cyflwyniad i NvVivo

25 Mehefin 2026 14:00-14:45

Ar-lein

Mae'r sesiwn 45 munud hon yn darparu cyflwyniad bras, ymarferol i NVivo, meddalwedd ar gyfer dadansoddi data meintiol a dulliau cymysg. Bydd mynychwyr yn dysgu hanfodion mewnforio a threfnu data, codio testun ac archwilio patrymau syml a themâu. Wedi'i fwriadu ar gyfer dechreuwyr, nod y sesiwn yw rhoi trosolwg sydyn, ymarferol er mwyn helpu ymchwilwyr ddechrau defnyddio NVivo yn effeithiol yn eu prosiectau.