Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd Wrecsam Hyfforddiant Ar-lein Prifysgol East Anglia

Mae gan Brifysgol Wrecsam danysgrifiad i ‘Gyfres o Hyfforddiant Ar-lein Prifysgol East Anglia (UEA)’. Mae’r hyfforddiant yn cynnig hyfforddiant ymchwil a sgiliau proffesiynol ar gyfer myfyrwyr ôl-radd, mewn fformat ‘dysgu byw’ ar-lein. Mae’r sesiynau hyfforddiant yn cael eu darparu drwy ddosbarth rhithiol, llawer ar nosweithiau’r wythnos rhwng 7pm-9pm, ond gyda rhai sesiynau ychwanegol yn ystod y dydd. 

Mae’r hyfforddiant wedi ei drefnu mewn pum modiwl, pob un yn canolbwyntio ar adran benodol.  

  • Modiwl 1: Ysgrifennu Academaidd  
  • Modiwl 2: Sgiliau Ymchwil Ansoddol  
  • Modiwl 3: Gorffen eich PhD 
  • Modiwl 4: Sgiliau Addysgu 
  • Modiwl 5: Sgiliau Ymchwil Meintiol  

Nodwch, mae’r hyfforddiant yma ar gael i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd cofrestredig Prifysgol Wrecsam yn unig.  

Sut i archebu 

Mae’r gyfres hyfforddiant yn defnyddio system archebu awtomatig a elwir yn ‘Bookwhen’. Mae’r dudalen lanio ar y wefan yn darparu gwybodaeth ar sut i archebu, rhestr aros, y posibilrwydd o ychwanegu sesiynau ychwanegol, sut i gael mynediad a sefydlu’r feddalwedd dosbarth rhithiol Electa-Live, sy’n cael ei defnyddio i gynnal y sesiynau, a sut i ganslo archeb os bydd hynny’n angenrheidiol.  

Ymwelwch â’r wefan archebu a darllen yr holl wybodaeth sydd wedi ei darparu. Os oes gennych unrhyw broblemau, eisiau gofyn cwestiwn, neu os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall, cofiwch e-bostio researchoffice@wrexham.ac.uk neu simon.d.watts@uea.ac.uk 

Yn y flwyddyn academaidd 2024-25, bydd sesiynau yn agor ar gyfer eu harchebu DAIR WYTHNOS CYN EU BOD YN CAEL EU CYNNAL am 12pm.