Lles, Arweinyddiaeth ac Iechyd y Cyhoedd: Cyfleoedd Dysgu Ôl-raddedig
Ydych chi wedi bod yn meddwl am ddysgu pellach i ddatblygu eich arweinyddiaeth neu ymarfer proffesiynol? A oes gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau ôl-raddedig Arweinyddiaeth er Lles neu Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Meddwl a Lles? A hoffech chi wybod mwy am y cyrsiau hyn a sut brofiad yw astudio ar lefel ôl-raddedig?
Beth am ddod draw i’r gweithdy hamddenol ac anffurfiol hwn a fydd yn archwilio’r cwestiynau hyn a llawer mwy. Bydd y gweithdy’n cael ei gyflwyno gan Arweinydd y Cwrs, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau a sgwrsio’n anffurfiol ag eraill sydd â diddordeb yn y meysydd pwnc hyn.
Dyddiad digwyddiad: Dydd Mercher, Mehefin 11, 09:30-12:00, B14, Campws Wrecsam
