.jpg)
Asiantaeth Sicrhau Ansawdd
Mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy’n gweithio er budd myfyrwyr ac addysg uwch.
Maent yn gweithio gyda’r llywodraeth, asiantaethau a sefydliadau yn fyd-eang mewn amryw o ffyrdd. Yng Nghymru maent yn gweithio’n agos gyda Medr a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil er enghraifft.
O safbwynt Prifysgol Wrecsam rydym yn aelodau o’r QAA ac rydym wedi gallu elwa o’u gweithgareddau i aelodau ac wedi cael y QAA i ymgymryd ag adolygiadau annibynnol o’n darpariaeth addysg uwch. Mae’r broses Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) yn cyfuno sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd.
Cafodd yr Adolygiad Gwella Ansawdd diwethaf ei gynnal yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25. Canfu’r adolygiad bod Prifysgol Wrecsam yn bodloni gofynion Rhan 1 Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) ar gyfer sicrwydd ansawdd mewnol, a’i fod yn bodloni gofynion rheoliadol llinell sylfaen perthnasol Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Cymru.
Gellir gweld yr adroddiad llawn yma.
Bydd y cynllun gweithredu’n cael ei lwytho ar y cyfle cyntaf posib.