Cadw'n Iach
Cadw'n iach i gefnogi model newydd ar gyfer lles.
Ein nod yw cefnogi a galluogi dinasyddion, cymunedau a sefydliadau i gadw’n iach, gan alluogi i garedigrwydd a thosturi fod wrth galon ein holl waith drwy weithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn cefnogi gogledd Cymru i ddod yn rhanbarth sy’n ystyriol o drawma. Gan arwain gyda phartneriaid, bydd ein hagwedd arloesol tuag at symudiad cymdeithasol ar gyfer newid yn canolbwyntio ar atal a’r prif ffactorau sy’n effeithio ar iechyd yn y rhanbarth. Mae’r prosiectau isod yn arddangos peth o’n gwaith mwyaf diweddar yn y maes hwn.
Content Accordions
-
Trawma a Phrofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE)
Ym mhob elfen — o ystafelloedd dosbarth i gymunedau, o lais y myfyriwr i arloesi mewn ymchwil — mae Prifysgol Wrecsam yn meithrin diwylliant o degwch, tosturi a thraweffaith. Nid un prosiect yn unig yw ein taith TrACE, ond mudiad ar gyfer newid arhosol.
Mae Prifysgol Wrecsam yn gweithio i ddod yn sefydliad sy’n Ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE). Dyma’r brifysgol gyntaf yn y DU i ymgorffori’r dull hwn. Caiff y prosiect hwn ei gyflwyno mewn partneriaeth â Hyb ACE Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae 55 o fyfyrwyr, gan gynnwys 6 Cyn-fyfyriwr wedi dod yn hyrwyddwyr TrACE cofrestredig.
Rydym wedi ymestyn y dull TrACE i fentrau cenhadaeth ddinesig mawr - gan ddarparu hyfforddiant ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma o fewn Prifysgol Plant Gogledd Cymru (NWCU) a’r prosiect ymchwil Map Cyhoeddus AHRC £4.6m sy’n cael ei arwain ar y cyd gan Brifysgol Wrecsam.
-
Prosiect Iechyd a Llesiant y Celfyddydau
Cynhaliom ddau Weithdy Therapi Celfyddydau Amgylcheddol Arbrofol yn Xplore! Safle natur ar gampws Llaneurgain Prifysgol Wrecsam, mewn cydweithrediad gyda Manuela Niemetscheck o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB).
Cafodd y sesiynau hyn eu darparu i dros 20 o fynychwyr ar draws ystod eang o sefydliadau ar draws y rhanbarth, gan archwilio buddion Therapi Celfyddydol Amgylcheddol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r effaith bositif y gall ei gael ar iechyd a lles.
Cafodd y gwaith hwn ei rannu yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn ystod gweithgaredd creadigol a thrafodaeth banel ar brosiectau celfyddydau a iechyd ar draws gogledd Cymru. Byddwn yn parhau I dyfu a datblygu’r gwaith hwn i mewn i 2026, gan hwyluso gweithdai newydd a dysgu pellach ar rym therapi celfyddydau amgylcheddol a’I draweffaith ar iechyd a lles.
Byddaf yn rhannu’r arferion gyda staff. Defnyddio rhan o fyd natur i adfyfyrio ar deimlad neu emosiwn.” - Adborth gan fynychwr