Adeiladu Cydnerthedd Cymunedol
Gwella gwrando a deall er mwyn meithrin cydnerthedd cymunedol.
Nod Prifysgol Wrecsam yw cefnogi ein cymunedau a’n partneriaid drwy wrando yn weithredol a gwneud yr hyn sy’n cyfrif fwyaf i’n partneriaid a’n dinasyddion. Caiff hyn ei alluogi gan ein hagwedd weithredol tuag at gydweithrediad rhanbarthol a dwyn pobl ynghyd i gefnogi lles teuluoedd, meithrin cariad at ddysgu, cysylltu asedau cymunedol a datblygu arweinwyr y dyfodol.
Mae’r prosiectau isod yn arddangos peth o’n gwaith mwyaf diweddar a chyfredol yn y maes hwn.
Content Accordions
-
Prifysgol Plant Gogledd Cymru (NWCU)
Nod Prifysgol Plant Gogledd Cymru yw annog plant a phobl ifanc I ymgysylltu’n weithredol gyda gweithgareddau allgwricwlaidd, gyda’r bwriad o adeiladu hyder, dyheadau a chyflawniad.
O fewn y cynllun peilot NWCU 2023/24, fe wnaeth cyfanswm o 1,272 o blant a phobl ifanc gymryd rhan yn y rhaglen weithgareddau. Gyda’i gilydd, cyfranogodd 51 o ysgolion a 9 grŵp cymunedol ar draws 6 awdurdod lleol yn y rhaglen.

Drwy’r prosiect rydym wedi hwyluso dros 27,108 awr o oriau dysgu allgwricwlaidd ar draws y rhanbarth.
Pan roedd y plant a’r bobl ifanc wedi cwblhau 30 awr o weithgaredd allgwricwlaidd, roeddent yn cyflawni dyfarniad efydd a bod yn gymwys ar gyfer ardystiad mewn seremoni raddio. Ymhellach, cafodd tystysgrifau lefel uwch Arian ac Aur Prifysgol Plant eu dyfarnu i blant a phobl ifanc oedd wedi cwblhau 65 awr (Arian) a 100 awr (Aur) o weithgaredd Prifysgol Plant. Llwyddodd cyfanswm o 669 o blant a phobl ifanc I sicrhau eu bod yn derbyn tystysgrif ar draws pum seremoni raddio’r brifysgol.
-
Prosiect mewn Blwch
Aethom ati i ddatblygu nifer o ‘Brosiectau mewn Blwch’ oedd yn cael eu darparu ar hyd a lled y gymuned, ac a oedd yn darparu adnoddau a gweithgareddau ar amrywiol bynciau:
- Eisteddfod
- Trychineb Glorfa Gresffordd
- TrACE – Llywio’r Storm
- Creu Meddyginiaeth
- Pizza’r Gofod

Ers i’r Prosiectau mewn Blwch ddechrau rydym wedi ymwneud â 25 o ysgolion a 3 chartref gofal. Yn ogystal â hyn, cafodd prosiectau blwch Gresffordd eu harddangos i bob cenhedlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst 2025. Ymddangosodd y prosiect hwn hefyd ar raglen deledu Heno.
.jpg)
Ymhlith y partneriaid y gweithiwyd gyda hwy ar y prosiect hwn mae: Prosiect Glowyr Wrecsam, Hyb ACE Cymru, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Archifau Wrecsam, Ispen Global a GroZen.
-
Sgyrsiau Bob
Mae’r prosiect Sgyrsiau Bob yn cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu sgiliau siarad cyhoeddus a hyder drwy ddarparu hyfforddiant ‘Naratif Cyhoeddus’ a chefnogaeth gan y tîm Cenhadaeth Ddinesig.
Yn 2024, fe wnaethom gefnogi 7 ysgol i draddodi sgyrsiau arddull TEDx (’Sgyrsiau Bob’) ar bwnc iechyd meddwl a llesiant.
Ym mis Ebrill 2025, fe wnaethom gefnogi 5 ysgol ac 1 grŵp cymunedol I draddodi sgyrsiau arddull TEDx (’Sgyrsiau Bob’) ar bwnc ‘Perthyn’.

Mae gweithredoedd a chwestiynau’r bobl ifanc yn ystod eu Sgyrsiau Bobyn cael eu rhannu gydag arweinwyr ar draws y rhanbarth, ac mae ganddynt draweffaith uniongyrchol ar y prosiectau rydym ni a’n partneriaid yn eu rhedeg yn y dyfodol.
Mae’r prosiect Sgyrsiau Bob yn parhau i dyfu, gyda disgyblion yn cael cyfle i siarad gerbron grwpiau mawr o unigolion dylanwadol sy’n galluogi newid ar draws y rhanbarth, megis y digwyddiad arweinyddiaeth Gweledigaeth y Dyfodol, ac ochr yn ochr â Chomisiynydd Plant Cymru, Rocío Cifuentes. Yn 2026 mae’r prosiect yn parhau i dyfu, gyda disgyblion o ogledd Cymru yn cyflwyno eu naratifau mewn digwyddiad mawr Hyb ACE Cymru y gwanwyn hwn.

-
Rhaglen Crewyr Newid Yfory
Rydym wedi gweithio gyda mudiad sydd wedi’i leoli yn ne Cymru er mwyn datblygu a pheilota ‘Prosiect Crewyr Newid Yfory’ yng ngogledd Cymru. Rydym wedi peilota’r prosiect ar draws 2 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2025.
Mae Rhaglen Crewyr Newid Yfory yn canolbwyntio ar ddisgyblion Blwyddyn 8 gan eu hannog i archwilio syniadau ynghylch yr economi gylchol a chynaliadwyedd gyda model dysgu yn seiliedig ar brosiect. Wedi cwblhau nifer o fodiwlau allweddol ar y pynciau hyn, cafodd y dysgwyr eu cyflwyno gyda dewis o feysydd er mwyn codi busnes a datblygu syniad arloesol er mwyn cefnogi eu hardal leol.
Mae gwaith ymchwil wedi’I fewnosod drwy gydol y prosiect, er mwyn canfod mwy am ei draweffaith ar ddewis pobl ifanc o bynciau yn y dyfodol ar gyfer TGAU.

-
Adrodd storïau fel dull i greu newid (Rhwydwaith Arloesi Cymru)
Ochr yn ochr gyda phartneriaid o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd (SPARK) a Phrifysgol Durham aethom ati i gynnal pwll tywod adrodd straeon ar gyfer dros 60 o fynychwyr - dysgu, rhwydweithio, a chreu byrddau darlunio er mwyn datblygu syniadau newydd ynghylch sut y gall adrodd straeon gael ei ddefnyddio fel dull ar gyfer cynnydd a newid mewn iechyd, gofal a gwasanaethau lles yng Nghymru.

-
100 Stori
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar brosiect enghreifftiol Comisiwn Bevan, prosiect 100 Stori - oedd yn cefnogi pobl ifanc i adrodd eu straeon am drawsnewid o wasanaethau iechyd plant i rai oedolion. Rydym wedi darparu adroddiad traweffaith ac wedi hyrwyddo canfyddiadau’r gwaith I ddatblygu a newid y ffyrdd rydym yn ymgysylltu gyda lleisiau dinasyddion o fewn PSB Wrecsam a Sir y Fflint.