Penodwyd ar 1 Medi 2023

Mae Will yn Gyfarwyddwr Llywodraethu Academaidd yn Regent College, Llundain, yn Ymgynghorydd Cyswllt gyda SUMS ac yn aelod lleyg o Banel Ymwelwyr Addysg y Cyngor Optegol Cyffredinol. 

Bu Will yn Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) tan 2019, gyda chyfrifoldeb am adolygiadau’r Asiantaeth ym mhrifysgolion, colegau addysg bellach a cholegau preifat yn Lloegr. Fel rhan o’r swydd hon roedd hefyd yn gyfrifol am graffu ar bwerau dyfarnu graddau a thrwyddedu’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch ar ran yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd.  

Cyn cael ei benodi’r Gyfarwyddwr yn yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd treuliodd Will bron i 10 mlynedd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn arwain adolygiad o ddarpariaeth gartref a thramor prifysgolion yn y Deyrnas Unedig. Cyn hynny bu’n uwch swyddog polisi yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, yn ymwneud â’r polisi cyllido ymchwil a mentrau cenedlaethol i wella arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli addysg uwch.