Y Gymraeg
Sefydlodd Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae’n cydnabod bod dwy iaith swyddogol yng Nghymru - Cymraeg a Saesneg. Mae hyn yn golygu na ellir trin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg.
Nod y safonau yw gwella’r gwasanaeth dwyieithog y gall pobl Cymru ddisgwyl ei dderbyn gan sefydliadau yng Nghymru. Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygiad yr iaith Gymraeg a thuag at gadw at Safonau’r Iaith Gymraeg. Mae’r dudalen hon yn amlinellu rhai o’r gwasanaethau y gallwch ddisgwyl eu derbyn gennym trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn dangos ein hymrwymiad i’r Safonau ac yn datgan sut y byddwn yn cydymffurfio â hwy yn y polisi a’r dogfennau canllaw canlynol:
- Polisi Iaith Gymraeg
- Cydymffurfio a Safonaur Gymraeg Canllawiau Pryderon a Chwynion
- Adroddiad ar Safonau'r Gymraeg 2018
- Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2018/19
- Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2019/20
- Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2020/21
- Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2021/22Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2021/22Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2021/22
- Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2022/23
Fel rhan o’n hymrwymiad i Safonau’r Gymraeg byddwn yn:
- Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
- Annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar y gwasanaethau y mae ganddynt hawl i’w derbyn gennym trwy gyfrwng y Gymraeg
- Hwyluso’r defnyddio’r Gymraeg ar y campws
- Cefnogi aelodau o staff sydd angen cymorth gyda’r Gymraeg.
Mae’r safonau sydd yn berthnasol i Brifysgol Glyndŵr wedi eu rhestru yn yr Hysbysiad Cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae gofyn inni gydymffurfio â’r safonau yn y Llythyr Cydymffurfio dan y themâu canlynol:
- Safonau Cyflenwi Gwasanaeth
- Safonau Gweithredu
- Llunio Polisi
- Cadw Cofnodion
Mae’r Brifysgol yn ymroi i gydymffurfio â’r Safonau yn unol â’r disgwyliadau a amlinellir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio ac yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaeth dwyieithog. Rydym yn cadw at yr egwyddor y byddwn, wrth ymgymryd â’n busnes, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Mae gofyn bod y Brifysgol yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol sydd yn amlinellu sut mae wedi cydymffurfio â’r safonau perthnasol, cliciwch yma i’w weld.
Am ragor o wybodaeth am Safonau’r Gymraeg, cysylltwch ag Uwch Swyddog Cydymffurfio a Dirprwy Lywydd y Brifysgol.
Y gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl oddi wrthym
- Rydym yn croesawu gohebiaeth ac ymholiadau dros y ffôn yn y Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod yr holl ohebiaeth a dderbynnir gan y Brifysgol yn y Gymraeg yn derbyn ymateb yn y Gymraeg. Ni fydd ysgrifennu atom yn y Gymraeg yn arwain at oedi o ran cael ymateb.
- Bydd ein cylchlythyrau, llythyrau safonol a'n cyhoeddiadau a gynhyrchir yn ganolog yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog.
- Bydd ein cyhoeddiadau a'n deunyddiau sy’n cael eu hargraffu a’u cynhyrchu’ ganolog hefyd yn ddwyieithog.
- Bydd holl dudalennu rhyngrwyd a mewnrwyd y Brifysgol ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
- Rydym yn cofrestru ac yn cadw cofnod o ddewis iaith ein gohebwyr rheolaidd ac rydym yn cyfathrebu â nhw gan ddefnyddio eu dewis iaith.
- Mae croeso ichi ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus
Y gwasanaethau y gallwch eu disgwyl gennym
Mae'r Brifysgol yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg.
Dysgu drwy gyfwng y Gymraeg
Mae'r Brifysgol yn gwbl ymroddedig i ddatblygiadau ar draws y sector mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn cynnig nifer gynyddol o fodiwlau y gellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws pynciau megis Therapi Galwedigaethol ac Addysg. Mae staff academaidd sydd yn meddu ar y Gymraeg yn cynnig tiwtorialau pwnc-benodol drwy gyfrwng y Gymraeg ac anogir myfyrwyr i ddewis lleoliadau cyfrwng Cymraeg y gall y Brifysgol eu trefnu.
Gofal Bugeiliol
Gallwch ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg, ar yr amod bod yna aelodau Cymraeg eu hiaith ymhlith y staff dysgu yn eich maes pwnc. Os nad oes siaradwyr Cymraeg rhugl ymhlith y staff academaidd yn eich maes, byddwn yn gofyn i aelod o staff priodol o'ch cyfadran fod yn diwtor ichi.
Asesu
Gall myfyrwyr gyflwyno eu haseiniadau yn y Gymraeg a gallant ddefnyddio meddalwedd cywiro Cymraeg ar gyfrifiaduron y Brifysgol i hwyluso hyn.
Mae'r trefniadau hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd neu reoliadau cenedlaethol gan gorff proffesiynol neu Arweiniad yr Asiantaeth Ansawdd (QAA).
Cyfathrebu
Mae ein holl gyfathrebu canolog â myfyrwyr yn eu dewis iaith.
Llety
Gall myfyrwyr geisio am lety sydd wedi ei neilltuo’n arbennig yn ein neuaddau preswyl ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Safonau'r Gymraeg cysylltwch ag Uwch Swyddog Cydymffurfio a Swyddog Diogelu Data.
Ffôn: 44(0)1978 290666 e-bost dpo@wrexham.ac.uk