Female student in corridor

Astudio  Blwyddyn Sylfaen

Dewch o hyd i'ch llwybr ar gyfer astudiaethau prifysgol.

Os ydych wedi bod allan o addysg am ychydig neu heb y cymwysterau angenrheidiol ar gyfer mynediad i radd 3-mlynedd, bydd gradd sylfaen yn helpu chi i adeiladu'ch sgiliau, addasu i astudiaeth lefel prifysgol ac ennyn hyder yn y dosbarth. 

Gellir ychwanegu blwyddyn sylfaen at nifer o'r cyrsiau a gynigir yn Wrecsam Glyndŵr - bydd hyn yn golygu bydd yna ddim oedi i chi cyn ymuno â'r brifysgol. Yn ystod y flwyddyn byddwch yn astudio dau fodiwl craidd a fydd yn datblygu eich sgiliau personol, proffesiynol ac academaidd ac yn eich helpu i ymgartrefu ym mywyd y brifysgol. Pan fyddwch wedi cwblhau'r flwyddyn sylfaen, byddwch yn gallu symud ymlaen yn syth i lefel gradd - os yw hyn yn teimlo fel y llwybr iawn i chi.

 

 

Isod fe welwch opsiynau i weld pob un o'n cyrsiau israddedig sydd ar gael neu gallwch chwilio am gyrsiau sydd ag opsiwn blwyddyn sylfaen gan ddefnyddio ein tab chwilio - dewiswch yr hidlydd 'blwyddyn sylfaen' i ddechrau chwilio!