A yw’n werth gwneud cwrs meistr? Buddion astudio gradd ôl-radd

three students around a table talking

Gall dewis a ddylech astudio cwrs ôl-radd fod yn benderfyniad anodd, ond does dim angen iddo fo fod.

Mae yna gymaint o feysydd pwnc i ddewis o’u plith yn Prifysgol Wrecsam, o gyrsiau nyrsio i beirianneg: yr hyn sy’n bwysig yw dod o hyd i’r pwnc cywir sy’n gweddu’r hyn sy’n mynd â’ch bryd.

Mi fydd gan ddarpar fyfyriwr ôl-radd ddau brif gwestiwn i’w hateb. A yw’n werth ei wneud? Ac, a fedraf i ei fforddio fo?

I’ch helpu i ateb y rhain, rydym yn argymell dod i noson agored. Rydym yn cynnal digwyddiadau ar y campws a hefyd ar-lein drwy gydol y flwyddyn i roi cipolwg manwl i ddarpar fyfyrwyr ar eu dewis pwnc.

Yma yn Prifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu cwrs isradd gyda ni. Mae yna hefyd ystod o wybodaeth ar ein gwefan ar wybodaeth ariannol ar gyfer myfyrwyr ôl-radd.

Hwb i’ch Cyflogadwyedd

Gall gradd meistr gynyddu eich cyfleoedd, a hynny o ran eich gyrfa a’ch datblygiad personol. Mae ein staff addysgu medrus yn brofiadol iawn yn eu meysydd pwnc ac ar gael i ddarparu’r addysg orau ichi.

Byddwch yn gallu sefyll allan ymysg eich cystadleuwyr wrth ymgeisio am swyddi drwy ddeall eich maes pwnc ar lefel uwch. Gall hyn drosi i botensial enillion uwch yn ystod eich gyrfa.

Yn amlwg mae cyflogadwyedd cyfartalog uwch ar gyfer myfyrwyr ôl-radd yn newyddion da os ydych yn ystyried gradd meistr, ond rhaid cofio hefyd bod angen gwaith caled, ymroddiad ac angerdd am y pwnc.

Cyfleoedd Rhwydweithio Gwych

Fel rhan o’ch gradd meistr, mae’n debyg y cewch gyfle i fynychu digwyddiadau a rhwydweithiau diwydiant. Wyddoch chi fyth ble gwnewch chi gysylltiad o wneud argraff gychwynnol dda.

Os ydych yn meddwl parhau gyda’ch addysg drwy wneud PhD neu TAR, neu’n ystyried swydd anacademaidd mewn diwydiant cysylltiedig, mae dechrau rhwydweithio’n gynnar yn gwneud gwahaniaeth.

Weithiau, pwy ‘da chi’n adnabod yn hytrach na beth rydych chi’n ei wybod sy’n cyfri!

Llwybr Newydd

Ydych chi’n meddwl mynd i faes newydd ond heb fod â llawer o brofiad neu gymwysterau perthnasol? Mae’n bosib y gall astudiaeth ôl-radd fod yn gam i’r cyfeiriad iawn.

Os nad oedd eich gradd israddedig union fel yr oeddech chi wedi ei ddisgwyl, neu nad oedd eich pwnc yn uniongyrchol gysylltiedig â llawer o yrfaoedd, dydych chi ddim ar eich pen eich hun wrth fod eisiau newid cyfeiriad.

Neu, os oes gennych chi syniad clir o’r hyn rydych chi am ei wneud, gallai cwrs meistr sydd yn canolbwyntio ar y maes hwnnw eich helpu i gyflawni eich nodau.

 

Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau ôl-radd, ffioedd, a chyngor, ewch i’n gwefan.