Cyllid ôl-raddedig
Beth sydd gen i'r hawl i?
Myfyrwyr o Gymru yn gwneud cais drwy - CYLLID MYFYRWYR CYMRU
Gallech gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda chostau eich cwrs. Mae faint a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Uchafswm y cyllid sydd ar gael yw: £18,770 ar gyfer 2023 i 2024
Mae'r tabl hwn yn dangos faint y gallech ei gael yn seiliedig ar enghreifftiau o incwm eich cartref:
Incwm cartref |
Benthyciad |
Grant |
£18,370 neu lai |
£11,885 |
£6,885 |
£25,000 |
£12,840 |
£5,930 |
£35,000 |
£14,282 |
£4,488 |
£45,000 |
£15,723 |
£3,047 |
£59,200 neu fwy |
£17,770 |
£1,000 |
I fod yn gymwys rhaid i chi fod:
- Yn astudio am radd meistr a addysgir
- O dan 60 oed ar gychwyn blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- Fel arfer yn byw yng Nghymru
- Yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU, neu drwy ddysgu o bell
Gallwch ddarganfod mwy drwy wylio'r fideo yma gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Mwy o wynodaeth i Fyfyrwyr Cymraeg
Myfyrwyr Saesneg yn gwneud cais drwy - STUDENT FINANCE ENGLAND
I fod yn gymwys am fenthyciad, mae rhaid eich bod chi:
- Yn astudio am radd meistr a addysgir
- O dan 60 oed ar gychwyn blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- Fel arfer yn byw yn Lloegr
- Yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU, neu drwy ddysgu o hirbell
Mwy o wybodaeth ar gyfer Myfyrwyr o Loegr
I wirio os allwch chi dderbyn cyllid myfyriwr ar gyfer eich cwrs yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, cysylltwch â'n tîm ffioedd a chyllid myfyrwyr.
Am fwy o wybodaeth ar ein rhaglenni ôl-raddedig, gwelwch ein hadran cyrsiau ôl-raddedig neu dewch i un o'n nosweithiau agored ôl-raddedig.
Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Gradd Meistr a Addysgir Cymreig
Mae dau fath o fwrsariaeth ar gael:
- Bwrsariaethau gwerth £2,000 i fyfyrwyr sy’n astudio pwnc STEMM
- Bwrsariaethau gwerth £4,000 i unrhyw un 60 oed neu drosodd sy'n astudio rhaglen meistr mewn unrhyw faes pwnc.
- Mae bwrsariaethau ar gael i ymgeiswyr sy'n gwneud cais i raglenni astudio amser llawn (blwyddyn fel arfer) a rhan-amser (dwy flynedd fel arfer).
- Lle mae myfyrwyr yn astudio cwrs rhan-amser, defnyddir y fwrsariaeth dros ddwy flynedd o astudio.
- Nid yw’r bwrsariaethau yn seiliedig ar brawf modd h.y. ni fyddant yn dibynnu ar incwm teulu ymgeisydd.
Nid yw myfyrwyr sy'n derbyn cyllid bwrsariaeth Addysg Iechyd a Gwella Cymru, bwrsariaeth y GIG a bwrsariaeth Gofal Cymdeithasol yn gymwys ar gyfer y cynlluniau.
Myfyrwyr STEMM
- Gall myfyrwyr o unrhyw oedran sy’n byw yng Nghymru yn 2023/24 dderbyn £2,000 i astudio gradd meistr mewn unrhyw bwnc gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth (STEMM). Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Myfyrwyr 60 oed a hŷn
- Gall pobl 60+ oed sy’n byw yng Nghymru dderbyn £4,000 i astudio gradd meistr yng Nghymru yn 2023/24. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Bydd myfyrwyr cymwys yn derbyn hysbysiad o hawl i fwrsariaeth erbyn diwedd mis Hydref 2022, a bydd bwrsariaethau a ddyfernir i gyfrannu at gostau sy'n gysylltiedig â'u rhaglenni astudio.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Ariannu Myfyrwyr a Chyngor Ariannol am ragor o wybodaeth.
E-bost: funding@glyndwr.ac.uk
Ffôn: 01978 293295
Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr PGW
Mae'r Brifysgol yn cynnig cynllun ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a addysgir ym mlwyddyn academaidd 2023/24.
I fod yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth, mae gofyn bod y darpar fyfyriwr gwrdd â'r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen astudio ôl-raddedig o'u dewis ac yn derbyn cynnig diamod ar gyfer mynediad i'r rhaglen honno, i fod wedi derbyn y cynnig hwnnw'n gadarn ac i fod wedi bodloni'r holl ofynion mynediad.
Mae'r hepgor-ffioedd canlynol ar gael i raddedigion Prifysgol Glyndwr Wrecsam sydd am ymgymryd â rhaglen gradd a addysgir llawn-amser neu ran-amser ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.
- 20% ar gyfer graddedigion sydd wedi cael gradd dosbrth cyntaf
- 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:1
- 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:2
DS: Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau Rhyddfraint neu bartnerol
Sut i wneud cais: Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ac sydd wedi derbyn cynnig lle amodol neu ddi-amod ar raglen astudio ôl-raddedig yn derbyn yr ysgoloriaeth i gynfyfyrwyr yn otomatig ar ôl cofrestru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, cysylltwch â admissions@glyndwr.ac.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2023
Mae telerau ac amodau yn berthnasol, gweler Rheoliadau Ysgoloriaethau Ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.
Ariannu amgen ar gyfer cyrsiau Ôl-raddedig
Nawdd cyflogwyr
Mae llawer o raddedigion yn cychwyn astudiaethau ôl-raddedig yn syth ar ôl cwblhau eu gradd gyntaf. Ond mae hefyd yn bosib dewis gohirio'ch astudiaethau pellach i ddyddiad diweddarach - fel hyn efallai y byddwch hyd yn oed yn ddigon ffodus i weithio i gyflogwr sy'n gallu talu - neu o leiaf ariannu'ch cwrs yn rhannol, yn enwedig os yw'r cwrs yn berthnasol i'ch dilyniant gyrfaol.
Gall cwrs ôl-raddedig a noddir gan gyflogwr fod yn drefniant delfrydol - cewch gyfle i dderbyn cymhwyster a fydd yn gwella'ch gallu i wneud eich swydd ac a fydd yn helaethu'ch rhagolygon gyrfaol, a bydd eich cyflogwr yn elwa gyda gweithiwr â chymwysterau gwell, sy'n fwy cynhyrchiol a gyda mwy o gymhelliant.
Pethau allweddol i gytuno â'ch cyflogwr:
- Sut caiff y ffioedd eu talu (a fyddwch chi'n gyfrifol am unrhyw un o'r costau?)
- Pwy fydd yn talu am eich deunyddiau astudio?
- Amser i ffwrdd ar gyfer dosbarthiadau, adolygu ac arholiadau
- A cheir yr amser i ffwrdd hwn yn ei ddidynnu o'ch lwfans gwyliau?
- A gewch chi eich rhwymo i gytundeb. Os felly, pa mor hir ydyw?