Galwch nawr am leoedd Medi 2026! 01978 293439

Darllen a'i fuddion ar gyfer ein hiechyd meddwl a'n lles

girl reading book and drinking coffee

Mae darllen wastad wedi bod yn un o'r ffyrdd sy'n fy helpu i ddad-bwysleisio a diffodd o bethau sy'n digwydd o'm cwmpas. Er nad ydw i'n frwdfrydig iawn ynglŷn â dyfodiad y gaeaf, byddaf yn edrych ymlaen at nosweithiau clyd o dan flanced gyda llyfr da (ac o bosib siocled poeth neu win coch!).

Mae ymgolli mewn stori yn tawelu ac ail-egnïo fy meddwl ac rwy'n arbennig o hoff o straeon sy'n rymus yn seicolegol, ychydig yn ddirdynnol ac ychydig yn anarferol!

Gwyddom o'r ymchwil y gall darllen fod â nifer o fanteision o ran lles, llythrennedd a sgiliau meddwl. Ac nid yw hyn wedi ei gyfyngu i ddarllen testunau 'highbrow' neu 'academaidd'. Dydw i ddim yn hoffi darllen pethau sy'n gwneud i mi deimlo fy mod i nôl yn yr ysgol neu'n ymrafael â chysyniadau academaidd yn fy amser i lawr! Ond dwi'n licio llyfrau sy'n gwneud i mi feddwl yn wahanol am bethau ac eisiau sgwrsio amdanyn nhw efo pobl eraill.

Pan symudais i'r ardal yma o'r Alban 8 mlynedd yn ôl, doeddwn i'n adnabod neb y tu allan i fy nheulu agos a doeddwn i ddim mewn gwaith. Penderfynais ymuno â chlwb llyfrau yn y pentref lle dwi'n byw a thrwy hynny wedi gwneud ffrindiau hyfryd a darllen llyfrau anhygoel (na fyddwn i byth wedi dewis fy hun).

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn gyfnod anodd, gyda phwysau a theimladau academaidd newydd o unigrwydd neu unigedd. Mae'n amser da i fyfyrio ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd i roi hwb i'n hiechyd meddwl a'n lles. 

Os ydych chi'n edrych am seibiant o astudio a darllen rhywbeth ar wahân i werslyfrau sy'n gysylltiedig â'r cwrs, yna dyma'r lle i fod. Fel myfyriwr, gallwch ymuno â'r tîm lles ar gyfer y grŵp darllen anffurfiol ‘Shelf Care’ i sgwrsio, rhoi hwb i'ch lles a chwrdd â phobl o'r un anian.

Os ydych chi'n awyddus i ymchwilio'n ddyfnach ac os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn sectorau iechyd cyhoeddus, iechyd meddwl neu les, mae gennym ystod o gyrsiau israddedig neu ôl-raddedig ar gael. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau byr iechyd a lles, a fydd yn rhoi rhagflas i chi ar gyfer ardal yr astudiaeth a bywyd myfyrwyr yn PW.

Os ydych eisoes yn fyfyriwr neu'n aelod o staff yn PW ac â diddordeb mewn ymuno â Shelf Care, anfonwch e-bost at nina.patterson@wrexham.ac.uk.

Ysgrifennwyd gan Nina Patterson, ddarlithydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Meddwl a Lles yn PW.