Ein Cymdogaeth mewn Rhifau
Rydym yn falch o’n lle yn y byd, ac o’r holl bethau bach sy’n gwneud ein cymuned yn arbennig, a hefyd ein hagosatrwydd at rai o leoliadau allweddol y DU. Dewch inni ddadansoddi’r rhifau:
1 Cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025
Roedd Wrecsam yn falch o fod ar y rhestr fer fel un o'r pedwar olaf ochr yn ochr â Bradford, County Durham, a Southampton. Ymhlith rhyfeddodau diwylliannol y dref mae Cymdeithas Bêl-droed Wrecsam, Eglwys San Silyn, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Theatr y Stiwt a Thŷ Pawb. Mae Tŷ Pawb yn ganolfan gymunedol ddiwylliannol a chanolbwynt celfyddydol ble mae oriel, stondinau a thai bwyta mewn adeilad sydd wedi ennill pedair gwobr bensaernïol.
1 Safle Treftadaeth y Byd
Safle syfrdanol Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, a adeiladwyd rhwng 1795 ac 1808 gan ddau ffigwr enwog yn natblygiad peirianneg sifil: Thomas Telford a William Jessop.
1 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Mae’r draphont wedi ei lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Rydym ni wedi ein lleoli fwy tuag at yr ochr ddeheuol, sydd yn ogystal â’r draphont ddŵr, hefyd yn cynnwys Bryniau’r Berwyn, Rhosydd Llandegla, Mynydd Rhiwabon a chlogwyni calchfaen anhygoel Sgarp Eglwyseg. Ymhlith y mannau i ymweld â hwy mae olion Castell Dinas Brân, Piler Eliseg ac Abaty Gyn y Groes.
1 Clwb Pêl-droed Hanesyddol
Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam yw’r clwb pêl-droed proffesiynol trydydd hynaf yn y byd. Fe’i sefydlwyd ym 1864, prin flwyddyn wedi i’r Gymdeithas Bêl-droed gwrdd am y tro cyntaf erioed, ac i reolau’r gêm cael eu rhoi lawr ar bapur. Gyda’u cartref yn y Cae Ras, sydd drws nesaf i’r campws, mae’r clwb yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol. Mewn stori a fynnodd sylw ar draws y byd, ym mis Chwefror 2021, cafodd y clwb ei brynu gan neb arall ond….
2. Sêr Hollywood
…ie, dyna ni, mae Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam yn nwylo perchnogion newydd, seren Deadpool, Ryan Reynolds, a’r actor Rob McElhenney, o It’s Always Sunny in Philadelphia. Mae’r ddau wirioneddol wedi integreiddio i gymuned Wrecsam, gan roi sylw haeddiannol i’r Gymraeg ac ymweld a gweithio ag ystod o fusnesau lleol a sefydliadau cymunedol… gan gynnwys ni!
2 Ŵyl Gerdd Ryngwladol
Pob blwyddyn mae myfyrwyr a darlithwyr o’n cyrsiau Cyfryngau Creadigol yn cael cyfle i fod yn rhan o Focus Wales, gŵyl gerdd aml-leoliad, rhyngwladol, gyda pherfformiadau gan dros 100 o fandiau ar draws Wrecsam.
Ers 1947 mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi dwyn ynghyd cerddorion a phobl o bob cwr o’r byd sydd â cherddoriaeth yn eu calonnau i ddathlu heddwch chytgord. Mae Luciano Pavarotti, Placido Domingo, Kiri Te Kanawa, José Carreras, Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Elaine Paige, a Montserrat Caballé ymysg y cerddorion clasurol a’r sêr byd opera sydd wedi perfformio yno.
2 Orsaf Drên
…yn rhedeg gwasanaeth uniongyrchol i Gaer, Caergybi ac arfordir Gogledd Cymru, Yr Amwythig, Birmingham a Chaerdydd. Mae cysylltiadau hefyd er mwyn ichi deithio i Lundain neu Ddulyn mewn dim amser o gwbl.
2 Eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae Erddig yn eiddo hardd sydd nid yn unig yn adrodd hanes teulu bonheddig, ond ei weision hefyd, gyda chasgliad mawr o bortreadau o’r gweision ac ystafelloedd sydd wedi eu cadw’n ofalus. I fyny’r grisiau mae ystorfa o ddodrefn a thecstilau cain, ac mae’r ardd a’r parc pleser yn fannau hyfryd i’w harchwilio.
Yn symbol amlwg o bŵer, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Y Waun ym 1295 yn ystod teyrnasiad y concwerwr Edward I, er mwyn gorchfygu’r olaf o dywysogion Cymru. Bu’r eiddo yn nwylo teulu’r Myddleton ers 1595, a dyma’r castell olaf o’r cyfnod hwn, gyda’i ystafelloedd moethus, sydd â phobl yn dal i fyw ynddo heddiw. Mae’r gerddi sydd wedi denu sawl gwobr yn ymestyn dros 5.5 acer ac mae 480 acer o dir ystâd i’w darganfod.
4 Marchnad a 4 Arcêd
Mae pedair arcêd siopa deniadol i’w cael yng nghanol tref Wrecsam, a hefyd pedair marchnad yn cynnig cymysgedd o siopau a stondinau traddodiadol ac anarferol.
5 o 7 Rhyfeddod Cymru
…mae’r rhain o fewn 20 milltir! Tŵr Eglwys San Silyn yn nhref Wrecsam, Clychau Gresffordd sydd gerllaw, Coed Ywen Owrtyn, Pont Llangollen a Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. Fymryn ymhellach i ffwrdd mae’r ddau arall – Pistyll Rhaeadr a’r Wyddfa.
11 Parc
Yn wir i chi, mae gennym ni 11 safle o fewn y sir ble cewch fynd i fwynhau awyr iach a gwyrddni, mae 7 ohonynt yn barciau gwledig, gan gynnwys Tŷ Mawr, Dyfroedd Alun a Dyffryn Moss.
12 milltir o…
…Theatr Clwyd, theatr gynhyrchu fwyaf Cymru, ble mae Vanessa Redgrave, Ian McKellen, Anthony Hopkins a llawer mwy wedi troedio’r byrddau. Mae’r pantomeim blynyddol, y Rock’n’Roll Panto yn denu torfeydd o agos a phell, gan ennill adolygiadau gwych.
13 milltir o…
…ddinas Rufeinig Caer, ble cewch archwilio waliau hanesyddol a’r rhodfeydd siopa unigryw, y ‘Rows’, neu fwynhau pryd o fwyd neu ddiod yn un o’r bariau a thai bwyta niferus.
30 milltir o…
…dref Y Bala, sydd wedi ei lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gyda’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, Llyn Tegid, sydd yn 6km gan 0.8km. Mae Eryri hefyd yn gartref i Zip World Velocity 2, gwifren sip gyflymaf y byd, a’r hiraf yn Ewrop, a Surf Snowdonia.
…Y traeth - Talacre ar arfordir Gogledd Cymru neu Parkgate dros y ffin ar benrhyn Cilgwri yw’r agosaf, ond mae digon o ddewis ar gael!
…Lerpwl, dinas gyfeillgar a chynnes sy’n adnabyddus am ei diwylliant, ei chelf a bywyd nos gwych.
55 milltir o…
…Manceinion, dinas wych arall, sy’n llawn lleoliadau cerdd gwych, clybiau, diwylliant, siopau, Manchester Pride a’r Curry Mile.
…Yr Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, â’i uchder yn 1,085 metr.