Dewch yn Lysgennad Myfyriwr

Ydach chi / Oes gennych chi...

  • frwdfrydedd go iawn dros Prifysgol Wrecsam a'r cwrs rydych yn astudio?
  • yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm?
  • agwedd hapus a phositif?
  • yn hoffi cwrdd â phobl newydd?
  • eisiau dweud eich stori i bobl eraill?
  • eisiau ennill ychydig o arian ychwanegol?

Os ydych yn ffitio’r meini prawf uchod yna rydym ni’n meddwl byddech yn ffitio i mewn yn dda fel un o’n Llysgenhadon Myfyrwyr angerddol.

Drwy ddod yn Llysgennad Myfyriwr a rhannu eich persbectif unigryw, byddech yn chwarae rhan hanfodol yn arddangos Prifysgol Wrecsam i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, i’w hannog nhw i astudio a byw yma a mwynhau profiadau tebyg.

Beth mae’n cynnwys?

Eich prif rôl ydi i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i ymuno â ni yma ym Prifysgol Wrecsam.

Yn dibynnu ar eich sgiliau a diddordebau, gall ddyletswyddau cynnwys:

  • Rhannu eich profiadau positif gyda myfyrwyr potensial ar ddiwrnodau agored, ffeiriau UCAS ac ymweliadau i ysgolion a cholegau
  • Helpu’r tîm mynediad gyda rhagor o dasgau gweinyddo
  • Ysgrifennu cynnwys blog deniadol wedi'i deilwra i ddarpar fyfyrwyr.  
  • Cyfrannu at sianeli cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol (Instagram a TikTok yn bennaf) trwy feddiannu, sesiynau holi ac ateb, fideos a chynnwys hyrwyddo arall. 
  • Ateb cwestiynau myfyrwyr potensial ar lein fel un o’n tîm Unibuddy
  • Modelu mewn lluniau a fideos hyrwyddol
  • Cymryd rhan mewn cyfweliadau ar gyfer fideos, datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos

Nid yn unig bydd eich cymorth yn amhrisiadwy i’n tîm Cyfathrebu, Marchnata, Recriwtio a Mynediad, ond gall fod yn Llysgennad Myfyriwr fod yn wych ar gyfer datblygiad personol eich hunain. Bydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm, cyfathrebu a chymhelliant, a fydd yn profi i fod yn werthfawr yn eich gyrfa ddyfodol - ac edrych yn wych ar eich CV.

Bydd angen imi dderbyn hyfforddiant?

Bydd, ceir popeth bydd angen i chi wneud ei gyfro gyda hyfforddiant neu friffio ar-y-diwrnod.

A fyddai’n derbyn cyflog?

Byddech, mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn ennill £9.90 yr awr.

Sut brofiad ydi bod yn Lysgennad Myfyiwr?

"Y cyfleoedd diddiwedd i gymryd rhan mewn pethau anhygoel yw un o'r rhannau rwy'n ei garu fwyaf am y brifysgol. Ar hyn o bryd rwy'n Llysgennad Myfyrwyr a thrwy'r rôl hon rwyf wedi cael cynnig cyfleoedd fel ‘takeover’ Instagram, blogiau (fel hyn) i rannu fy mhrofiadau gydag eraill, cyfleoedd ymchwil a chyfleoedd hyfforddi fel dod yn bencampwr TrACE ar gyfer y brifysgol."

- Emma Telfer, Seicoleg

Gwneud cais

Pan fydd cyfleoedd llysgenhadon myfyrwyr ar gael, gallwch wneud cais drwy glicio yma.

Am gwestiynau am eich cais cysylltwch â jobs@wrexham.ac.uk

Os hoffech gyngor gyrfaoedd a chymorth arweiniad, gallwch gyrraedd ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd