Campysau a chyfleusterau
Campysau a chyfleusterau yng nghanol Gogledd Cymru
Mae campysau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn adlewyrchu ein harbenigedd yn ogystal â bod yn gartref i ystod o gyfleusterau i ddiwallu anghenion myfyrwyr – mae gennym ni bopeth ar gyfer eich anghenion astudio ac adloniant. Mae gan bob campws ei gymeriad, hunaniaeth a diben penodol ei hun, ac maent yn ased nid yn unig i’n poblogaeth myfyrwyr ond hefyd i’r gymuned ac i fusnesau yn y rhanbarth.
Campws 2025
Campws 2025 yw ein strategaeth £80m i wella ein holl gampysau i sicrhau bod gan ein myfyrwyr y cyfleusterau a'r amgylchedd dysgu gorau.
Campysau Wrecsam
Ein campws mwyaf a’r man ble dechreuodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2008…neu 1887, o olrhain yn ôl drwy ein hanes.
Campws Llaneurgain
Cartref gwledig y brifysgol ar gyfer addysg gwyddor anifeiliaid; canolfan bwrpasol ar gyfer rhyngweithio a lles anifeiliaid a phobl.
Campws Llanelwy
Gan ddod â’r byd academaidd a diwydiant at ei gilydd, mae’r gweithgareddau yn Llanelwy yn canolbwyntio ar dechnoleg optoelectroneg lefel uchel.
Dewch ar daith
Archwiliwch naill ai’n rhithiol, neu drwy daith o amgylch y campws, bopeth sydd gennym i’w gynnig.
Chwaraeon
Mae sawl digwyddiad chwaraeon o bwys wedi eu llwyfannu yn ein canolfan chwaraeon, un o’r lleoliadau chwaraeon blaenllaw yng Ngogledd Cymru, ac mae ar gael i’w defnyddio gan y brifysgol a’r gymuned.
Bwyd a Diod
Mae ystod o fannau arlwyo ar draws ein campysau ble gall myfyrwyr fwyta, yfed, ymlacio a chymdeithasu.
Undeb Myfyrwyr
Mae ein bar myfyrwyr, Glyn's, yn ganolbwynt i adloniant myfyrwyr ac yn lle gwych i gwrdd.