
Bwyd a Diod
Mae yna ystod o fannau arlwyo ar draws ein campysau ble gall myfyrwyr fwyta, yfed, ymlacio a chymdeithasu. Hefyd mae nifer o beiriannau gwerthu wedi eu lleoli ar draws y safleoedd i ddarparu lluniaeth cyflym.
Gan mai Plas Coch yw’r campws ble mae’r rhan fwyaf o gyrsiau wedi eu lleoli mae’r safle yn gartref i’r nifer fwyaf o opsiynau o ran prynu eitemau o fwyd a diod. Cegin Unedig yw ein prif fan bwyta, sydd yn cynnig popeth o frecwast, byrbrydau “dewis a mynd”, brechdanau, saladau ac amrywiaeth o brydau poeth traddodiadol a modern. Maent yn darparu ar gyfer gofynion dietegol gan gynnwys prydau halal, llysieuol, prydau heb gynnyrch llaeth a heb glwten, ac mae prydau themâu a barbeciws ar gael yn rheolaidd.
Allfeydd eraill ym Mhlas Coch yw:
- Café Bar 45 (yn gwerthu Costa Coffee) sydd wedi'i leoli ym mhrif dderbyniad y Brifysgol
- Bean Machine wedi'i leoli yn y Llyfrgell a'r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr
- Siop Goffi Catrin Finch (yn gwerthu Coffi Starbucks) yng Nghanolfan Catrin Finch
Mae Ystafell 23 wedi’i lleoli yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol yn Regent Street sy’n gweini detholiad o fyrbrydau a diodydd. Mae dwy siop hefyd ar Gampws Llaneurgain, Ffreutur Coleg Llaneurgain a Celyn Café.