decorative

Gwobr i Fyfyrwyr  a Gyn-fyfyrwyr

Bob blwyddyn mae Prifysgol Wrecsam yn cydnabod cyflawniadau ei myfyrwyr trwy gyfres o wobrau.

Mae'r gwobrau adlewyrchu gwaith eithriadol o radd sylfaen i lefel PhD ar draws ystod lawn portffolio academaidd y brifysgol.

Mae Prifysgol Wrecsam yn cydnabod cyflawniadau ein cyn-fyfyrwyr gyda dwy wobr arbennig, sy'n cael eu dyfarnu i gyn-fyfyrwyr.

Rhoddir Tystysgrif Prifysgol Wrecsam i holl enillwyr y gwobrau ac mae gan rai gwobrau werth ariannol neu wobrau ychwanegol hefyd. 

Cliciwch ar y ddolen isod i weld y gwobrau 2023/24

Noder bod y gwobrau hyn yn gywir adeg eu cyhoeddi a'u bod yn destun newid.

 

Gwobr Cymdeithas Owain Glyndŵr i Gyn-fyfyrwyr

Yn 2010, cafodd Prifysgol Wrecsam rodd o hambwrdd arian gan Gymdeithas Owain Glyndŵr, i'w ddyfarnu er anrhydedd i gyn-fyfyriwr y brifysgol.


Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer gwobr 2023/24 a'r dyddiad cau yw 14eg Hydref 2024. Dyfernir y wobr i gyn-fyfyriwr cymwys sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol yn unrhyw un o'r meysydd canlynol:
•    Hyrwyddo dysg ac addysg
•    Hyrwyddo dysg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
•    Hyrwyddo Cymru
•    Gwella cysylltiadau rhyngwladol
•    Menter ac arloesedd


Gall cyn-fyfyrwyr cymwys enwebu eu hunain neu gael eu henwebu gan unigolyn neu sefydliad arall (efallai na fydd aelodau presennol o staff yn cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau hyn).  


Enwebiadau
Ydych chi'n gwybod am gyn-fyfyriwr/gyn-fyfyrwyr o'r Brifysgol sydd, yn eich barn chi, yn enillwyr teilwng o'r wobr hon?


Os ydych, enwebwch nhw!! Anfonwch ffurflenni wedi eu cwblhau i assessmentandawards@wrexham.ac.uk erbyn Gwener 14eg Hydref 24.  


Mae'r hambwrdd yn cael ei arddangos yn llyfrgell y Brifysgol gydag enw'r enillydd bob blwyddyn yn cael ei arwyddo ar fwrdd ochr yn ochr ag ef. Bydd tystysgrif i'r enillydd hefyd.


Ffurflen Enwebu - Gwobr Cymdeithas Owain Glyndŵr i Gyn-fyfyrwyr
Rheoliadau Gwobr Cymdeithas Owain Glyndwr

 

Gwobr Cyfraniad Gweithredol at Ymchwil mewn Chwaraeon i Gyn-fyfyrwyr

Sefydlwyd y wobr i ysgogi cyffro ymhlith myfyrwyr israddedig y flwyddyn olaf i ymgysylltu â'r broses traethawd ymchwil gyda'r nod o gyhoeddi canfyddiadau eu hymchwil mewn cynhadledd fyfyrwyr. Gellir gwneud hyn fel myfyriwr sy’n graddio neu gyn-fyfyriwr y Brifysgol. Bydd yr enillydd yn ennill tystysgrif gwobr a'r cyfle i gyflwyno canfyddiadau eu hymchwil yng nghynhadledd fewnol myfyrwyr yr adran Gwyddor Chwaraeon a gynhelir ym Mhrifysgol Wrecsam, lle bydd y wobr yn cael ei dyfarnu.  


Dyfarnir y wobr i’r myfyriwr sy’n graddio/cyn-fyfyriwr cymwys sydd wedi dangos gwreiddioldeb ac arloesedd yn ei draethawd ymchwil, sydd yn y pendraw, wedi'i dderbyn gan Gynhadledd Fyfyrwyr Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain, fel cynhadledd cyn cyhoeddi a lle mae'r panel yn ystyried bod y cyhoeddiad yn arddangos cyfraniad rhagorol a newydd at ymchwil yn y maes hwnnw.


Enwebiadau
Bydd myfyrwyr sy’n graddio/cyn-fyfyrwyr cymwys yn cael eu henwebu gan dîm y rhaglen wedi i'r enwebai gael cadarnhad o'i dderbyniad i Gynhadledd Fyfyrwyr Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain ac wedi darparu llythyr eglurhaol yn nodi sut mae ei ymchwil yn newydd ac yn ychwanegu at gorff gwybodaeth sy'n bodoli eisoes.


Bydd gofyn i unrhyw un sy'n enwebu roi rhesymau penodol dros eu henwebiad ar y ffurflen enwebu, yn dangos yn glir sut mae'r myfyriwr sy’n graddio/cyn-fyfyriwr wedi bodloni'r meini prawf.


Rheoliadau y Wobr Cyfraniad Gweithredol at Ymchwil mewn Chwaraeon