Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn tystysgrif rhaid bod eich canlyniadau wedi eu cadarnhau gan Fwrdd Asesu'r Brifysgol ac os yw'n berthnasol wedi'u rhoi mewn Seremoni Raddio (neu yn eich absenoldeb os nad ydych yn mynychu Seremoni Raddio).

Yn ogystal, mae'n rhaid i chi hefyd beidio â bod ag unrhyw oblygiadau ariannol yn ddyledus i'r Brifysgol er mwyn derbyn eich tystysgrif.

Pryd geith fy nhystysgrif ei hanfon i mi?

Os byddwch yn mynychu eich seremoni Raddio gallwch gasglu’ch tystysgrif ar y diwrnod, ar ôl eich seremoni. Os na fyddwch yn mynychu’ch seremoni, ein nod yw anfon yr holl dystysgrifau cyn gynted â phosibl ar ôl Graddio ond oherwydd y niferoedd uchel efallai na fydd hyn tan hyd at 12 wythnos ar ôl y Seremoni Raddio.

[Sylwer: i gael copi arall o dystysgrif ewch i’r adran ‘Copi arall o Dystysgrifau’ i gael manylion yr amserlenni dosbarthu]

O ran dyfarniadau nad ydynt yn gymwys i fynychu Graddio, ein nod yw anfon pob un o’r mathau hyn o dystysgrifau cyn pen deuddeg wythnos o gadarnhau’r dyfarniad gan y Bwrdd Asesu.

Os bydd cyflogwr neu Brifysgol arall yn gofyn am brawf o’ch cymhwyster cyn i’ch tystysgrif gael ei chyhoeddi, gallwch ofyn am lythyr dros dro gan y Tîm Tystysgrifau.

Sut caiff fy nhystysgrif ei hanfon ataf?

I fyfyrwyr sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig, caiff yr holl dystysgrifau eu postio i gyfeiriad cartref olaf graddedigion fel y’i cofnodwyd ar System Cofnodion Myfyrwyr y Brifysgol (oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni am gyfeiriad arall), a’u postio trwy bost ail ddosbarth.

Rhaid i chi sicrhau bod eich cyfeiriad cartref a’ch cyfeiriad e-bost yn gywir cyn cwblhau eich rhaglen astudio trwy fynd i e:Vision.

I fyfyrwyr sy’n astudio y tu allan i’r Deyrnas Unedig, bydd tystysgrifau’n cael eu hanfon i swyddfa ganolog y Brifysgol bartner a bydd y Brifysgol bartner yn trefnu anfon/casglu tystysgrifau.

Rwy’n credu bod fy nhystysgrif yn cael ei dal yn ôl

Ni fydd y Brifysgol yn anfon tystysgrifau o unrhyw fath i unrhyw fyfyriwr sydd â ffioedd heb eu talu sy’n ddyledus i’r Brifysgol. Os oes gennych unrhyw ffioedd sy’n ddyledus sy’n atal rhyddhau’ch tystysgrif dylech gysylltu ag Adran Gyllid y Brifysgol ar y manylion isod ar unwaith.

E-bost: accountsreceivable@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch: 01978 293037.

I fyfyrwyr sy’n astudio mewn Colegau Partner rhaid i chi gysylltu’n uniongyrchol â Thîm Cyllid y Coleg Partner.

Mae tystysgrifau hefyd yn cael eu dal yn ôl hyd nes y ceir canlyniad apêl academaidd / camymddwyn academaidd / disgyblu / addasrwydd i ymarfer.

Copi arall o dystysgrifau

Mae tystysgrifau yn ddogfen gyfreithiol bwysig a dylid ei thrin felly. Ni fydd Prifysgol Wrecsam Glyndŵr yn rhoi tystysgrif arall/ddyblyg i unrhyw ymgeisydd sydd â thystysgrif wreiddiol heb ei difrodi. Mae tystysgrif arall/ddyblyg, er eu bod yr un statws â’r rhai gwreiddiol y maent yn eu disodli, yn cael eu cynhyrchu ar y cynllun a ddefnyddir ar hyn o bryd, ac felly gallant fod yn wahanol o ran cyflwyniad i’r rhai gwreiddiol.

Mae yna nifer o amgylchiadau lle efallai yr hoffech chi brynu copi arall/dyblyg o’ch tystysgrif. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y math perthnasol wrth osod eich archeb. Dim ond un copi o’ch tystysgrif wreiddiol y gallwch ei archebu, ni fydd archebion lluosog yn cael eu prosesu.

Caiff pob copi newydd o dystysgrif ei hanfon trwy bost ail ddosbarth fel arfer ond mae opsiynau postio drwy ddulliau Llofnodi Amdano ac Olrhain hefyd ar gael. Ein nod yw anfon copi o dystysgrifau o fewn 6 wythnos ar ôl derbyn eich archeb (ar gyfer anfon copi o dystysgrif wreiddiol a ddifrodwyd, bydd hyn 6 wythnos ar ôl i ni dderbyn y dystysgrif wreiddiol a ddifrodwyd). Sylwer, os prynir postio cyflym, nid yw hyn ond yn berthnasol i’r dull postio; nid yw’n bosibl cyflymu’r broses argraffu tystysgrifau.

Pa fath bynnag o dystysgrif newydd sydd ei hangen arnoch, rhaid i chi hefyd lenwi’r holiadur er mwyn cwblhau eich archeb.

Sylwer na fydd y Brifysgol yn anfon tystysgrif i gyfeiriad lle na dderbyniwyd tystysgrif o’r blaen heb ddefnyddio dull postio Llofnodi Amdano neu Olrhain (am gost ychwanegol i’r myfyriwr). Fel arall, gellir rhoi cyfeiriad diogel gwahanol ar gyfer anfon y dystysgrif.

Archebu copi newydd o dystysgrif Dyfarniad Prifysgol Glyndŵr

Os rhoddwyd eich dyfarniad gan Brifysgol Glyndŵr, gellir prynu tystysgrif newydd o siop ar-lein y Brifysgol. Wrth osod eich archeb, dewiswch UN o’r cynhyrchion 1-4 yn unig.

Archebu copi newydd o dystysgrif Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma

Cyn 2005 cynhyrchwyd tystysgrifau gan Edexcel a bydd angen i chi gysylltu ag Edexcel (sef Pearson bellach) yn uniongyrchol er mwyn cael tystysgrif newydd.

I fyfyrwyr o 2005 ymlaen, cynhyrchir y dystysgrif gan y Brifysgol. Ewch i siop ar-lein y Brifysgol trwy’r ddolen hon. Wrth osod eich archeb, dewiswch UN o’r cynhyrchion 1-4 yn unig.

Archebu copi newydd o dystysgrif Prifysgol Cymru

Os yw’r dystysgrif yr ydych eisiau copi ohoni yn ddyfarniad Prifysgol Cymru, rhaid i chi wneud cais am gopi newydd yn uniongyrchol i Gofrestrfa Prifysgol Cymru.