(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Drin Cŵn Chwilio

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
2.5 diwrnod
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Northop
Pam dewis y cwrs hwn?
Cewch ddysgu’r sgiliau a chael y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sylfaenol sy’n angenrheidiol i Hyfforddwyr Cŵn Chwilio i sicrhau gwasanaeth ar lefel broffesiynol. Bydd y cwrs hwn yn helpu i’ch paratoi at yr hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer gyrfa yn y maes hwn, ac yn rhoi’r cyfle i chi wneud gwaith ymarferol yn efelychu tîm hyfforddi cŵn chwilio.
Bydd gan y garfan hon ffocws arbennig ar adfer dioddefwyr a'r defnydd o gŵn canfod gweddillion dynol.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygwyd ar y cyd ag UK-K9 Training for Excellence
- Wedi’i gymeradwyo gan NASDU (Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer Defnyddwyr Cŵn Diogelwch)
- Sesiynau ymarferol yn efelychu gwaith tîm cŵn chwilio.
Beth fyddwch chin ei astudio
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio:
- Cyflwyniad i Rinweddau Triniwr a Chŵn
- Egwyddorion Hyfforddi Chwilio
- Rheoli a Dulliau Chwilio
- Cofnodi a Dogfennaeth
- Cŵn Diogelwch Arbenigol a Darganfod
- Cynllunio Hyfforddiant a Gyrfa
Noder bod y cwrs hwn yn ymdrin â phynciau fel marwolaeth a dadelfeniad a all fod yn heriol i rai myfyrwyr.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Sylwch nad oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn
Noder bod y cwrs hwn yn ymdrin â phynciau fel marwolaeth a dadelfeniad a all fod yn heriol i rai myfyrwyr.
Addysgu ac Asesu
Byddwch angen cwblhau dau asesiad:
- Bydd yr asesiad cyntaf yn ymarfer chwilio ffug, lle byddwch yn chwarae rôl aelod o dîm trin cŵn chwilio ac yn gorfod cynllunio a gwneud ymarfer chwilio.
- Bydd yr ail yn gofnod myfyriol ar eich perfformiad ar y gweithgaredd chwilio ffug.
Ffioedd a chyllid
I ddarganfod y ffioedd mwyaf diweddar ar gyfer y cwrs hwn, anfonwch e-bost at shortcourses@wrexham.ac.uk.
Os ydych chi'n staff neu'n fyfyriwr yn prifysgol wrecsam presennol neu'n byw yng Nghymru, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael gostyngiad neu hepgoriad ffi ar gyrsiau cymwys.
Cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk am fanylion pellach.
Dyddiadau cyrsiau
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
2.5 diwrnod
Campws Northop
Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol