(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Gwnsela
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
10 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Fel proffesiwn, mae cwnsela wedi ehangu’n aruthrol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf gyda mwyfwy o gydnabyddiaeth ynghylch gwerth cael cymorth proffesiynol a’r cymorth y gall ei roi i bobl yn y cartref ac yn y gweithle.
Prif nodweddion y cwrs
- Llwybr gwych i astudio ein Diploma Addysg Uwch mewn Cwnsela.
- Datblygu dealltwriaeth o rôl cwnselydd a’r sgiliau rhyngbersonol sydd eu hangen ar gyfer y proffesiwn.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae'r cwrs yn cyflwyno beth yw cwnsela yn union, gan gynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando sy'n fuddiol ac sy'n gallu cael eu defnyddio mewn ystod eang o leoliadau gwaith a chymdeithasol.
Caiff pobl sydd â diddordeb mewn hyfforddiant proffesiynol fel cwnselwr, defnyddio sgiliau cwnsela mewn proffesiynau eraill a'r bobl hynny sy'n dymuno gwella eu hunan-ddatblygiad a'u sgiliau gwrando yn cael eu harfogi â'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y llwybr o'u dewis.
Mae'r cwrs hefyd yn rhoi cipolwg ar hanes cwnsela ac mae'n helpu i ddatblygu neu adnewyddu sgiliau rhyngbersonol a chwnsela allweddol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Efallai y bydd yn ddefnyddiol bod gennych gymwysterau lefel 2 (TGAU) gan fod astudio ar y lefel hon yn gofyn am sgiliau darllen a sgiliau ysgrifennu. Bydd y bobl sy'n ystyried gwneud cais yn ei chael yn fanteisiol i feddu ar brofiad gwaith a bywyd i helpu i roi'r cwrs mewn cyd-destun.
Mae mynychwyr yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac oedran. Mae amrywiaeth yn cael ei groesawu.
Nodwch bod yn rhaid i chi fod yn 18+ oed er mwyn bwcio lle ar y cwrs hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.
Addysgu ac Asesu
Gall addysgu gynnwys cyflwyniadau gan staff, gwaith pâr a gwaith grwpiau bach a gweithgareddau dosbarth cyfan megis trafod syniadau, darllen ac astudio unigol, ymarfer ac adborth sgiliau gwrando mewn grwpiau bach, ac arsylwi fideo lle y bo'n briodol.
Mae'r asesu ar Lefel 4 ac mae iddo 2 agwedd:
- Traethawd 1250 o eiriau yn dangos gwybodaeth am ddatblygiad cwnsela a'r lleoliadau lle gall cwnsela gael ei gynnig a'r hyn y gall cwbsela obeithio ei gyflawni.
- Adroddiad ysgrifenedig o 750 o eiriau yn seiliedig ar fyfyrio ar ddatblygu sgiliau gwrando yn ystod y cwrs, gan ystyried cryfderau personol a meysydd i'w datblygu. Mae rhoi a derbyn adborth i ac oddi wrth fynychwyr eraill y cwrs yn rhan bwysig o'r cwrs.
Rhagolygon gyrfaol
Nod y cwrs yw bod o fudd i bobl a all fod yn ystyried hyfforddiant proffesiynol pellach fel cwnselwr, pobl sydd â diddordeb mewn ystyried y defnydd o sgiliau cwnsela mewn proffesiynau eraill a'r bobl sydd â diddordeb mewn hunan-ddatblygu a mireinio eu sgiliau gwrando.
Ffioedd a chyllid
Y ffi am y cwrs 10 wythnos yw £295.
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim.
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad Cychwyn:
- Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025 - Archebwch Nawr
- Dydd Mawrth 29 Ebrill 2025 - Archebwch Nawr
Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn rhedeg bob dydd Iau rhwng 6:00yh a 9:00yh am 10 wythnos - campws wrecsam
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.