(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Gyfansoddion

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
7 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r cwrs byr ar-lein hwn yn cyflwyno cyfansoddion, eu cymwysiadau mewn peirianneg a'r buddion a'r heriau a bydd yn darparu trosolwg o'r dechnoleg ac yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu eu gwybodaeth yn y maes hwn.
- Mae'r defnydd o gyfansoddion yn flaenllaw o ran datblygiadau cyffrous ym maes awyrofod, gofod, modurol, offer chwaraeon, a llawer o ddiwydiannau eraill.
- Mae gan Prifysgol Wrecsam arbenigedd sylweddol mewn cyfansoddion, gyda labordy cyfansoddion datblygedig wedi'i leoli yn Broughton, lle cynhelir ymchwil blaenllaw i'r dechnoleg gyffrous hon.
Prif nodweddion y cwrs
Nod y cwrs byr hwn yw:
- Cyflwyno trosolwg o hanes deunyddiau cyfansawdd mewn diwydiant awyrofod a modurol.
- Cyflwyno'r gwahanol fathau o ddeunyddiau cyfansawdd sydd ar gael.
- Gallu nodi pa wahanol fathau o ddeunyddiau matrics a ffibr a ddefnyddir mewn peirianneg fodern.
- Deall budd defnyddio deunyddiau cyfansawdd dros ddeunyddiau metelaidd traddodiadol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.
Ffioedd a chyllid
£95
Staff / myfyrwyr Prifysgol Wrecsam / sefydliadau elusennol staff a gwirfoddolwyr = AM DDIM
Dyddiadau'r cwrs
Ar hyn o bryd nid oes dyddiadau cychwyn ar gyfer y cwrs hwn.
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr ymholiadau fel y gellir cysylltu â chi pan fydd dyddiadau newydd yn cael eu cadarnhau cofrestrwch eich diddordeb.