(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Gynaliadwyedd Busnes

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Eisiau bod yn arwr ym maes cynaliadwyedd? Camwch i mewn i'n cwrs byr Cyflwyniad i Gynaliadwyedd mewn Busnes ym Mhrifysgol Wrecsam i ddarganfod sut i redeg busnes sy'n gwneud y byd yn lle gwell.
Gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ein harwain, byddwn yn dangos i chi sut i greu gwerth hirdymor drwy ganolbwyntio ar lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Anghofiwch am redeg busnes yn y ffordd arferol - dysgwch sut i arloesi, cydweithio ac arwain gyda phwrpas mewn ffordd sydd o fudd, nid yn unig i'ch gwaelodlin chi, ond i'r gymuned a'r blaned.
Prif nodweddion y cwrs
Rhwydweithio Cymheiriaid gyda Chydweithwyr Proffesiynol eraill: Ymunwch â chymuned ddeinamig o bobl sy'n frwd dros gynaliadwyedd. Rhannwch fewnwelediadau, chwiliwch am ddatrysiadau, ac adeiladwch gysylltiadau sy'n para.
Dysgu ar y Cyd: Dewch yn rhan o amgylchedd dysgu cydweithredol lle mae llais pawb yn cyfrif. Ewch i'r afael â phroblemau cynaliadwyedd y byd go iawn gyda'ch gilydd, dysgwch o safbwyntiau amrywiol a gwella eich sgiliau drwy wybodaeth a rennir.
Fforymau Deialogaidd Byw: Cymerwch ran mewn sesiynau deinamig, rhyngweithiol lle gallwch ofyn cwestiynau, trafod syniadau a chael adborth yn syth. Bwriad y fforymau hyn yw ysgogi eich meddyliau a gwneud dysgu yn apelgar ac yn hwyl
Beth fyddwch chin ei astudio
Dechreuwch ar antur 8-wythnos ar-lein gan blymio i ganol byd ymarferion busnes cynaliadwy. Dyma beth fyddwch chi'n ei archwilio:
• Cyflwyniad i Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy: Deall Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r 5 Ffordd o Weithio - Cydweithio, Integreiddio, Ymwneud, Meddwl yn yr hirdymor, ac Atal.
• Nod Llesiant - Ffyniannus: Dysgwch am greu cymdeithas carbon isel, gan ddefnyddio adnoddau yn effeithiol, a sicrhau gwaith teg i bawb.
• Nod Llesiant - Cydnerthedd: Darganfyddwch sut i gynnal amgylchedd bioamrywiol, cefnogi ecosystemau iach, a gwella cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol.
• Nod Llesiant - Iachach: Archwiliwch ffyrdd o fwyhau lles corfforol a meddylion a deall traweffaith dewisiadau ac ymddygiadau ar iechyd yn y dyfodol.
• Nod Llesiant - Mwy Hafal: Darganfyddwch sut i alluogi pobl i gyflawni eu llawn botensial, waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol a'u hamgylchiadau.
• Nod Llesiant - Cymunedau Cydlynus: Dysgwch sut i greu cymunedau deniadol, hyfyw, diogel yn llawn cysylltiadau.
• Nod Llesiant - Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu: Hyrwyddo a gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
• Nod Llesiant - Cyfrifoldeb Byd-eang: Deall sut y gall gweithredoedd lleol wneud cyfraniad cadarnhaol i lesiant byd-eang.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Amherthnasol
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Addysgu ac Asesu
Mae ein dull cyflawni hyblyg ac apelgar yn cynnwys:
• 6 x Darlith wedi'i Recordio yr Wythnos: Cewch fynediad at y rhain ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi a gallwch ailymweld â hwy unrhyw bryd rydych angen cael eich atgoffa ohonynt.
• Deunyddiau Dysgu Cefnogol ar Moodle: Cewch wella eich dealltwriaeth gyda chynnwys wedi'i guradu, gan gynnwys sgyrsiau TED, canllawiau astudio a rhestr ddarllen wedi'i hargymell.
• 8 x Tiwtorial Anghydamseredig: Astudio ar eich cyflymder eich hun gyda thiwtorialau sy'n cyd-fynd â'ch amserlen.
• 2 x Fforwm Deialogaidd 2 Awr: Cymerwch ran mewn trafodaethau bywiog i atgyfnerthu eich dysgu a chael atebion byw i'ch cwestiynau.
• 8 x Podlediad 30 Munud: Gwrandewch ar fewnwelediadau arbenigol a chynghorion ymarferol wrth fynd.
• Atgyfeiriad at Gyrsiau Trylwyr Prifysgol Wrecsam: Archwiliwch gyfleoedd dysgu pellach ar gyfer testunau cynaliadwyedd allweddol megis ynni adnewyddadwy.
Y strategaeth asesu fydd log dysgu parhaus. Bydd eich myfyrdodau a'ch trafodaethau wythnosol yn cyfuno i ffurfio rhan o'r asesiad.
Rhagolygon gyrfaol
Nac ydyw - ond bydd yn cefnogi unigolyn sydd ynghlwm wrth reolaeth Busnes ac arweinyddiaeth
Ffioedd a chyllid
£195
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais am hepgor ffioedd bydd hyn yn mynd at ein tîm ariannu i’w brosesu, ac yna byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a ydych yn gymwys ai peidio i gael hepgor eich ffioedd..
Os ydych yn gymwys, byddwn wedyn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi sut i sicrhau eich lle ar y cwrs..
* Sylwch mai dim ond i fyfyrwyr sy'n astudio 30 credyd neu lai mewn blwyddyn academaidd y mae'r hepgoriad ffi ar gael. Os byddwch yn dechrau astudio ymhellach yn ystod y flwyddyn academaidd hon, a fydd yn mynd a chi dros 30 credyd, gall hyn olygu dileu'r hepgoriad ffioedd ac efallai y codir tâl arnoch am y cwrs byr.
Dyddiadau Cyrsiau
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.