(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Raglennu

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
3 wythnos
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn yn berffaith i ehangu eich sgiliau cyfrifiadura technegol drwy archwilio iaith raglennu gyflwyniadol. Mae'r cwrs hwn wedi ei anelu at fagu eich hyder o ran rhaglennu, a bydd yn mynd i'r afael â sawl agwedd fel strwythur a chystrawen, cyn canolbwyntio ar hanfodion cyfrifiadurol a rhaglennu.
Gallwch ymgymryd â'r cwrs hwn fel cyflwyniad neu fel llwyfan i archwilio opsiynau astudio yn y dyfodol yn y maes Cyfrifiadura a rhaglennu.
Prif nodweddion y cwrs
- Cwrs ar-lein dros 3 wythnos
- Astudiaeth gyfeiriedig a chymorth i'ch helpu i weithio drwy'r cwrs
- Datblygu eich gallu technegol o ran rhaglennu
- Gwella eich hyder wrth ddefnyddio pecynnau rhaglennu
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn mynd i'r afael ag ystod o bynciau, gan gynnwys:
- Cyflwyniad i Python ac Anaconda
- Newidion a Mathau o Ddata
- Gweithio gyda Rhifau a Llinynnau
- Cael Mewnbwn gan y defnyddiwr
- Rhestrau a Phlygion
- Swyddogaethau a Dychwelyd
- Datganiadau Os
- Dolenni Profi ac Arbrofi
- Dolenni o fewn Dolenni
- Darllen ac Ysgrifennu i Ffeiliau
- Cyflwyniad i Wrthrychau a Dosbarthiadau
Gofynion mynediad a gwneud cais
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Addysgu ac Asesu
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno dros 3 wythnos, ar-lein, drwy sesiynau byw ar ddydd Llun, a bydd cynnwys hunan-astudio ychwanegol ar gael bob dydd Mercher ichi ei gwblhau erbyn diwedd bob wythnos.
Asesiad: Bydd asesiad y cwrs hwn yn cynnwys darnau o waith cwrs sy'n canolbwyntio ar feysydd unigol o arbenigedd o fewn gweithgareddau IDE a rhaglennu.
Ffioedd a chyllid
£95 yw'r ffi safonol
YN RHAD AC AM DDIM i fyfyrwyr a staff Glyndŵr.
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau’r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.