(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Therapi Iaith a Lleferydd

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2027
Hyd y cwrs
7 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs ‘Cyflwyniad i Therapi Iaith a Lleferydd’ hwn yn ymuno ag ystod o gyrsiau ‘Cyflwyniad i’ Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol (AHP) ym Mhrifysgol Wrecsam. Y prif nod yw ehangu cyfranogiad a mynediad i gyrsiau gofal iechyd i fyfyrwyr o lwybrau traddodiadol, a llwybrau nad ydynt yn rhai traddodiadol.
Mae’r cwrs ar-lein saith wythnos hwn yn cynnwys gwybodaeth a sgiliau paratoadol i gefnogi cais i astudio Therapi Iaith a Lleferydd neu gais i gwrs gofal iechyd perthnasol gan ei fod yn cynnwys y gwerthoedd gofal iechyd craidd ac yn rhoi trosolwg o fywyd myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Wrecsam. Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu gan Therapyddion Iaith a Lleferydd cofrestredig mewn gwaith o’r bwrdd iechyd lleol.
Byddai’n ddeniadol i ymgeiswyr sydd â chryfderau’n megis cyfathrebu’n dda, gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol a dyhead i weithio yn y proffesiwn neu’r sector gofal iechyd. Byddai cwblhau’r cwrs yn ased gwerthfawr ar y rhan ‘profiad perthnasol’ o gais i’r BSc Therapi Iaith a Lleferydd. Byddai hefyd yn rhoi cyfle i gwrdd â staff addysgu a chael gwybod mwy am y cwrs, yr yrfa, y brifysgol a bywyd fel myfyriwr.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys myfyrwyr drwyddi draw drwy ddefnyddio’r Fframwaith Dysgu Gweithredol a’r dull dysgu cyfunol.
Prif nodweddion y cwrs
- Cyflawnir gan Therapyddion Iaith a Lleferydd o’r bwrdd iechyd lleol
- Cwrs am ddim
- Sesiynau wedi’u recordio a deunyddiau’n cael eu huwchlwytho fel bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad iddynt yn eu hamser eu hunain
- Cefnogi cais i astudio Therapi Iaith a Lleferydd
- Ennill 20 credyd ar Lefel 4
- Rhagor o wybodaeth am astudio’r cwrs a bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cyflwyniad a throsolwg Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol
- Cyfathrebu a Llyncu
- Rôl y Therapydd Iaith a Lleferydd
- Therapi Iaith a Lleferydd fel gyrfa + Cwis ffurfiannol hanner ffordd drwy’r cwrs
- Themâu yn y proffesiwn
- BSc (Anrh.) Therapi Iaith a Lleferydd yn Prifysgol Wrecsam
- Crynodeb ac Asesiad
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.
Addysgu ac Asesu
- 7 awr o addysgu byw cydamserol
- 29 awr o gynnwys anghydamserol gan gynnwys darllen, gweminarau, podlediadau ar Moodle er mwyn paratoi ar gyfer y sesiynau byw a’r asesiadau
- 164 awr o ddysgu annibynnol
- Asesiad hanner ffordd – wythnos 4. MCQ
- Asesiad crynodol – wythnos 7. Darn o waith myfyriol yn ymwneud â datganiad personol.
Gall myfyrwyr gyflwyno eu haseiniadau yn y Gymraeg a gallant ddefnyddio meddalwedd cywiro Cymraeg ar gyfrifiaduron y Brifysgol i hwyluso hyn.
Mae'r trefniadau hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd neu reoliadau cenedlaethol gan gorff proffesiynol neu Arweiniad yr Asiantaeth Ansawdd (QAA).
Ffioedd a chyllid
AM DDIM
Dyddiadau’r cwrs
Medi 2026
- Dydd Mercher 16 Medi - 4yp-5:30yp - Campws Wrecsam
- Dydd Mercher 23 Medi - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 30 Medi - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 7 Hydref - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 14 Hydref - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 21 Hydref - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 4 Tachwedd - 5yp - 6yp - Ar-Lein
Ebrill 2027
- Dydd Mercher 7 Ebrill - 4yp-5yp - Campws Wrecsam
- Dydd Mercher 14 Ebrill - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 21 Ebrill - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 28 Ebrill- 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 5 Mai - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 12 Mai - 5yp - 6yp - Ar-Lein
- Dydd Mercher 19 Mai - 5yp - 6yp - Ar-Lein