(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Ysgrifennu a Darlunio Llyfrau Plant
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
9 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i gamau amrywiol yn y broses meddwl am y dyluniad wrth ystyried yr hyn sy’n gwneud llyfr lluniau da i blant. Bydd yn annog archwilio ac arbrofi creadigol ar ystod o gyfryngau a thechnegau yn y maes ysgrifennu a darlunio llyfrau plant.
Prif nodweddion y cwrs
- Arddangosiadau gweithdy i amlinellu’r prif egwyddorion dylunio
- Cefnogaeth bersonol i’ch helpu i greu eich gwaith eich hun
- Gwerthuso eich gwaith eich hun a gwaith eraill yn y grŵp yn ystod sesiynau trafod y grŵp ym mhob cam o’r broses ddylunio.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Y Broses Meddwl Dylunio fel fframwaith ar gyfer creadigrwydd
- Technegau sydd ar gael i gyfathrebu â’r darllenydd/cynulleidfa
- Archwiliad ymarferol o gyfryngau a thechnegau o fewn amgylchedd adrodd straeon
- Annog meddwl gwerthusol yn eich ysgrifennu a’ch darlunio creadigol unigol eich hun
- Cynhyrchu portffolio o ysgrifennu a datblygu gwreiddiol mewn adrodd straeon gweledol
Addysgu ac Asesu
Ceir trafodaethau beirniadol yn ystod ac ar ddiwedd aseiniadau, gyda chyd-drafodaethau grŵp a hyfforddiant unigol yn sail i asesu ffurfiannol parhaus.
Bydd corff o waith yn cyflwyno’r datblygiad dylunio a’r cynhyrchiad yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd y modiwl. Asesir myfyrwyr yn ôl eu harchwiliad o gynhyrchu syniadau ar gyfer straeon a pherthynas testun a delwedd yn eu datrysiad i adrodd straeon. Dylai hyn gael ei ategu gan ddogfennaeth o’r dulliau gweithio a’r dylanwadau cyd-destunol y mae’r myfyriwr wedi dod yn ymwybodol ohonynt a’u defnyddio yn ystod y modiwl.
Ffioedd a chyllid
£95
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.