Galwch nawr am leoedd Medi 2026! 01978 293439

(Cwrs Byr) Cyflwyniad i’r Theatr Llawdriniaethau

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2026, 2027

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi mewnwelediad i chi i amgylchedd unigryw Adrannau Theatr. Mae hyn yn cynnwys y daith y bydd cleifion yn mynd arni yn ystod y llawdriniaeth, y safonau a’r gwerthoedd sy’n sail i ofal ein cleifion, a’r rolau a'r proffesiynau amrywiol o fewn y tîm hynod sgilgar hwn o ddarparwyr gofal.

Bydd ffocws penodol ar rolau a chyfrifoldebau Ymarferwyr yr Adran Llawdriniaeth yn y maes hwn, a chwmpas cynyddol yr ymarfer yn yr Adran Theatr a’r tu allan iddi.

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudio cymwys ar gyfer ein Gradd BSc Israddedig, Ymarfer yr Adran Llawdriniaeth
  • Modiwl unigryw yn y brifysgol
  • Arddulliau dysgu/addysgu a fydd yn gweddu i raglenni gradd israddedig, yn rhai llawn amser a rhan amser, yn y Brifysgol
  • Strwythur prifysgol agored a chefnogol
 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyflwyniad i’r Amgylchedd Theatr
  • Y Daith yn ystod Llawdriniaeth - Gofal sy’n Canolbwyntio ar y Claf
  • Cyflwyniad i Arbenigeddau Llawfeddygol
  • Rolau’r ODP a’r Tîm Aml-ddisgyblaethol
  • Ein Safonau a’n Gwerthoedd
  • Anaestheteg
  • Llawdriniaeth
  • Gofal ar ôl rhoi Anaestheteg
  • Rolau Cynyddol yr ODP
  • Arweiniad ar Ysgrifennu Academaidd ac Asesiadau
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

N/A

Addysgu ac Asesu

Bydd yr asesiad yn cynnwys aseiniad ysgrifenedig yn archwilio rolau a chyfrifoldebau Ymarferwyr yr Adran Llawdriniaeth ynghylch gofal cleifion.

 

Gall myfyrwyr gyflwyno eu haseiniadau yn y Gymraeg a gallant ddefnyddio meddalwedd cywiro Cymraeg ar gyfrifiaduron y Brifysgol i hwyluso hyn.
Mae'r trefniadau hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd neu reoliadau cenedlaethol gan gorff proffesiynol neu Arweiniad yr Asiantaeth Ansawdd (QAA).

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

 

Dyddiadau’r cwrs

Hydref 2026

  • Dydd Mawrth 27 Hydref - 3yp-5yp - Campws Wrecsam 
  • Dydd Mawrth 3 Tachwedd - 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 10 Tachwedd - 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 17 Tachwedd  - 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 24 Tachwedd  - 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 1 Rhagfyr - 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 8 Rhagfyr - 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 15t Rhagfyr - 3yp-5yp -  Ar-lein

Mawrth 2027 

  • Dydd Mawrth 2 Mawrth - 3yp-5yp - Campws Wrecsam 
  • Dydd Mawrth 9 Mawrth - 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 16 Mawrth- 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 23 Mawrth- 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 30 Mawrth- 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 6 Ebrill - 3yp-5yp -  Ar-lein 
  • Dydd Mawrth 13 Ebrill- 3yp-5yp -  Ar-lein
  • Dydd Mawrth 20 Ebrill - 3yp-5yp -  Ar-lein