(Cwrs Byr) Cymell ac ymgysylltu eich tîm
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Ai’r bobl yn eich busnes yw eich prif ased? Ydyn nhw’n rhoi mantais gystadleuol i chi dros eraill yn eich sector neu faes? Mae ymgysylltiad yn allweddol wrth reoli pobl yn y 21ain ganrif. Dysgwch sut i ysgogi gweithwyr a bod yn fwy cynhyrchiol, a defnyddio ymgysylltiad effeithiol â gweithwyr yn eich busnes.
Prif nodweddion y cwrs
- Cyflwyniad i’r sgiliau a’r meddylfryd a fydd o gymorth i chi gynnal sgyrsiau â chleifion sy’n cael trafferth gwneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd.
- Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio a’i hwyluso mewn ffordd sy’n sicrhau cyfweliadau ysgogol o safon uchel ac sy’n gallu gweithredu fel sylfaen ar gyfer meithrin sgiliau yn y dyfodol.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs byr yn cael ei gynnal dros 4 wythnos, gyda phob wythnos yn rhoi sylw i agwedd gwahanol ar gymell ac ymgysylltu eich tîm, fel yr isod;
- Cymhelliad a damcaniaethau cysylltiedig
- Cyflwyniad i'r cysyniad o ymgysylltiad gweithwyr a bodlonrwydd mewn swydd
- Gwerthuso gwerth gwobrau ac ysgogiadau wrth gymell ac ymgysylltu timau
- Deall diwylliant y gweithle.
Bydd deunydd ar gael trwy Moodle, caiff myfyrwyr mynediad at ddarlithoedd wedi'u recordio, podlediadau ac erthyglau. Bydd rhaid i fyfyrwyr astudio yn eu hamser eu hunain, er bod rhywfaint o ddisgwyliad eu bod yn anelu at gael y wybodaeth ddiweddaraf bob wythnos sail. (hy bod tasgau ar gyfer wythnos 1 yn cael eu cwblhau rywbryd yn wythnos 1)
Mae'r cwrs hyblyg hwn yn cynnig dull cyfun o ddysgu, gan gyfuno hwylustod dysgu ar-lein â rhyngweithio hyfforddiant ystafell ddosbarth. Cynhelir sesiynau grŵp personol ar gampws Prifysgol yn Wrecsam gan ddarparu platfform rhyngweithiol i'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan i rannu eu profiad dysgu.
Mae'r cwrs byr hwn yn gofyn bod y myfyriwr yn gallu dyrannu 3 awr yr wythnos i'w hastudiaeth, ond nid oes unrhyw ofyniad i fod ar-lein ar amser penodol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk.
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar sail pwnc wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos eu dysg. Y disgwyliad ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 1,000 o eiriau.
Bydd canllawiau clir yn cael eu rhoi i fyfyrwyr ynghylch disgwyliadau ac asesiadau myfyrwyr. Ni fydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio dull cyfeirio Harvard, ond bydd angen iddynt restru eu ffynonellau gwybodaeth. Bydd yr asesiadau yn 8 x cyfraniadau 250 gair i fforwm trafod, a byddant yn cynnwys tasgau seiliedig ar farn, ymchwil neu brofiad sy'n gysylltiedig â'r cynnwys wythnosol. Cynghorir myfyrwyr i gwblhau un fforwm bob wythnos, ac ni ddylai ymestyn eu hamser astudio o fwy na 30 munud yr wythnos
Ffioedd a chyllid
Am ddim.
Dyddiadau'r cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.